1 A phan welodd y tyrfaoedd, efe a escynnodd i’r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddiscyblion a ddaethant atto:
2Ac efe a agorodd ei enau, ac a’u dyscodd gan ddywedyd,
3Gwyn eu bŷd y Canys meddaf i chwi, oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach nâ yr scrifennyddion a’r Pharisæaid, nid ewch i deyrnas nefoedd.
21Clywfoch ddywedydgan y Luc.11.39. Exod.20.13. Deut.5.17.rhai gynt, Na ladd: a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn.
22Eythr yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, mai pwy bynnac a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn, a phwy bynnac a ddywedo wrth ei frawd, Raca, fydd euog o gyngor: a phwy bynnac a ddywedo, ô ynfyd, a fydd euog o dan vffern.
23A chan hynny os dygi dy rodd i’r allor, ac yno dyfod i’th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn:
24Gâd ti yno dy offrwm ger bron yr allor, a dos ymmaith: yn gyntaf cymmod â’th frawd, ac yno tyret, ac offrwm dy rodd.
25Cytuna â’th wrthwynebwr yn gyflym, tra fyddech ar y ffordd gyd ag ef, Luc.22.58.rhag i’th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw’r ynad, ac i’r ynad dy roddi at y rhyngill, a’th daflu yng-harchar.
26Yn wir meddaf i ti, ni ddeui di allan oddi yno hyd oni thelech yr hatling eithaf.
27Clywsoch ddywedyd wrth y rhai gynt, Exod 20.14.na wna odineb.
28Eithr yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, pwy bynnac a edrycho ar wraig iw chwennychu hi, iddoi wneuthur eusus â hi odineb yn ei galon.
29Os Math.18.8. Marc.9.47.dy lygad dehau dithe a’th rwystra, tynn ef allan, a thafl oddi wrthit: canys gwell iti golli vn o’th aelodau, nâ thaflu dy holl gorph i vffern.
30Hefyd os dy law ddehau a’th rwystra, torr hi ymmaith, a bwrw oddi wrthit: canys gwell i ti golli vn o’th aelodau, nâ thaflu dy holl gorph i vffern.
31Dywetpwyd hefyd, Math.19.7. Deut.24.1. Marc.10.4. Luc 16.18. 1 Cor.7.10.pwy bynnac a ollyngo ymmaith ei wraig, rhoed iddi lythr yscar.
32Ond yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, mai pwy bynnac a ollyngo ei wraig ymmaith, onid o achos godineb, a wna iddi fod yn gwneuthur godineb, a phwy bynnac a briodo yr hon a yscarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.
33Trachefn chwi a glywsoch ddywedyd wrth y rhai o’r cynfyd, Exo.20.7. leuit.19.12. Deut.5.11.na thwng anudon, eithr tâl dy lwon i’r Arglwydd.
34Ond meddaf i chwi, na thwng ddim, nac i’r nef, canys gorseddfa Duw ydyw:
35Nac i’r ddaiar, canys maingc ei droed ef ydyw: nac i Ierusalem, canys dinas y brenin mawr ydyw.
36Ac na thwng i’th ben, am na elli wneuthur vn blewyn yn wynn, neu yn ddu.
3737 Eithr Iaco.5.12.bydded eich ymadrodd chwi, Ie, Ie, nag ê nag ê, oblegit beth bynnac sydd tros ben hyn, o ddrygioni y mae.
38Clywsoch ddywedyd, Exo.21.24. Leuit.24.20. Deut.19.21.llygad am lygad, a daint am ddaint.
39Eithr yr ydwyfi yn dywedyd wrthych chwi, Luc.6.29. Rom.12.17. 1 cor.6.7.na wrthwynebwch ddrwg, ond pwy bynnac a’th darawo ar dy rudd ddehau, tro’r llall atto hefyd.
40Ac i’r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gâd iddo dy gochl hefyd.
41A phwy bynnag a’th gymhello vn filltir, dôs gyd ag ef ddwy.
42 Deut 15.8. Dyro i’r hwn a gais gennit, ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwyna gennit.
43Clywsoch ddywedyd, Leuit.19.18.câr dy gymydog, a chasâ dy elyn.
44Eithr yr ydwyfi yn dywedyd wrthych chwi, cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch melldithiant, gwnewch dda i’r sawl a’ch casânt, Luc 6.27. & 23-34. act 7.60a gweddiwch tros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a’ch erlidiāt.
45Fel 1 Cor 4.13. luc 6.35.y byddoch blant eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri iw haul godi ar y drwg a’r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn.
46Oblegit os cerwch y sawl a’ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna’r publicanod hefyd yr vn peth?
47Ac os cyferchwch eich brodyr yn vnig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur, onid ydyw y publicanod yn gwneuthur felly?
48Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, yn berffaith.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.