1A Gair yr Arglwydd a ddaeth attaf, gan ddywedyd:
2 Gen.10.2.|GEN 10:2. Gwel.20.8. Gosot dy wyneb fab dŷn yn erbyn Gog: thîr Magog, pen-tywysog Mesech, a Thubal, a prophwyda yn ei erbyn:
3A dywet, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, wele fi attat ti Gog pen-tywysog Mesech a Thubal,
4Dychwelaf di hefyd a rhoddaf fachau yn dy foch-gernau, ac mi a’th ddygaf allan, a’th holl lû: y meirch a’r marchogion wedi eu gwisco hwynt oll â phôb rhyw arfau yn gynnulleidfa fawr, helmau a thariannau, hwynt oll yn dwyn cleddyfau.
5Y Persiaid, yr Ethiopiaid, a’r Phutiaid gyd â hwynt, a hwynt oll yn dwyn tarian a helm.
6Gomer ai holl lu, tŷ Togarma, ystlyssau y gogledd, ai holl lu, phobl lawer gyd â thi.
7Ymbarattoa, îe parattoa rhagot, ti a’th holl gynnulleidfa, y rhai a ymgynhullant attat, fel y byddech yn ddiogelfa iddynt.
8Wedi dyddiau lawer yr ymwelir â thi, ac yn y blynyddoedd diwethaf y deui i dir wedi dychwelyd oddi wrth y cleddyf, wedi ei gasclu o bobloedd lawer ar fynyddoedd Israel, y rhai fuasent yn ang-hyfannedd bôb amser: îe efe a ddaw allan o’r bobloedd, a hwynt oll â drigant mewn diogelwch.
9Dringi hefyd fel temmestl, deui byddi fel cwmwl i guddio’r ddaiar, ti a’th holl lu a phobloedd lawer gydâ thi,
10Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, bydd yn y dydd hwnnw i bethau ddyfod i’th feddwl, fel y meddyliech feddwl drwg.
11A thi a ddywedi, mi a âf i fynu i wlâd maes-drefydd, deuaf at y rhai llonydd, y rhai ydynt yn presswylio yn ddiofal, gan drigo oll mewn trefydd heb gaerau, ac heb drossolion na dorau iddynt:
12I yspeilio yspail, i sclyfaethu sclyfaeth, i ddychwelyd dy law ar anghyfannedd y rhai a gyfanneddir ac ac bobl a gasclwyd o’r cenhedloedd y rhai a ddarparasant anifeiliaid, a golud, ydynt yn trigo yng-hanol y wlâd.
13Seba, a Dedan, a marchnadyddion Tharsis hefyd, ai holl lewod a ddywedāt wrthit, ai i yspeilio yspail y daethost di, ai i sclyfaethu sclyfaeth y cesclaist y gynnulleidfa, i ddwyn arian, ac aur, gymmeryd anifeiliaid, a golud, i yspeilio yspail fawr?
14Am hynny prophwyda fab dŷn, a dywet wrth Gog, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw: oni chei di ŵybod y dydd hwnnw, pan bresswylio fy mhobl Israel yn ddiofal?
15Ie ti a ddeui o’th fangre dy hun, o ystlysau y gogledd, ti a phobl lawer gyd â thi, hwynt oll a farchogant feirch yn dyrfa fawr, ac yn llu lluosoc.
16A thi ei i fynu yn erbyn fy mhobl Israel, gan guddio y ddaiar fel cwmwl, yn y dyddiau diwethaf y byddi, a mi a’th ddygaf yn erbyn fy nhîr fy hun, fel yr adwaeno y cenhedloedd fi pan Ezec.36.23. Ezec.37.28.ymsancteiddiwyf ynot ti Gog o flaen eu llygaid hwynt.
17Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, ai tydi yw’r hwn y lleferais dano yn y dyddiau gynt trwy law fyng-weision prophwydi Israel, y rhai a brophwydasant yr amser hwnnw, am dy ddwyn di yn eu herbyn hwynt?
18A bydd yn y dydd hwnnw yn y dydd y delo Gog yn erbyn tîr Israel (medd yr Arglwydd Dduw) i’m llid gyfodi yn fy sorriant.
19Canys yn fyng-wŷn, yng-wrês fy nigllonedd y dywedais oni bydde yn y dydd hwnnw ddychryn mawr ar dîr Israel,
20Fel y dychryane o’m blaen i byscod y môr, ac ehediaid yr awyr, a bwyst-filod y maes, a phob ymlusciad yr hwn a ymlusco ar y ddaiar: a phob dyn yr hwn ar wyneb y ddaiar, yna y mynyddoedd a ddryllir i lawr, a’r grissiau a syrthiant, a’r holl furiau a gwypant i lawr.
21Canys galwaf am gleddyf yn ei erbyn yn fy holl fynyddoedd medd yr Arglwydd Dduw: cleddyf pôb vn fydd yn ei gyfaill ei hun.
22Mi a ddadleuaf hefyd ag ef drwy haint, a thrwy waed: glawiaf hefyd gur-law, a cherrig cenllysc, tân a brwmstan arno ef, ac ar ei holl luoedd ef, ac ar bobloedd lawer y rhai gyd ag ef.
23Ie Ezec.36.23. ezec.37.28.ymfawrygaf ac ymsancteiddiaf, a pharaf fy adnabod yng-olwg cenhedloedd lawer, fel y gŵypont mai myfi ydwyf yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.