1YN y dydd hwnnw y meddyliodd Tobit am yr arian a roddase efe at Gabael yn Rages ym Media,
2Ac a ddywedodd wrtho ei hun, mi a chwenychwn farw, eithr pa ham nad ydwyf yn galw am Tobias fy mab, fel y gallwyf ei gynghori ef cyn fy marw:
3Ac wedi alw am dano ef y dywedodd, fy mab, pan fyddwyf, marw cladd di fi, ac na ddiystyra dy fam, anrhydedda hi holl ddydiau dy enioes, a gwna y peth a ryngo bodd iddi, ac na thristâ hi:
4Cofia fy mab ei bod hi mewn llawer o beryglon, tra fuost yn ei bru hi.
5Pan fyddo hi marw, cladd hi gyd â myfi yn yr vn bedd.
6Fy mab meddwl am yr Arglwydd ein Duw ni yn dy holl ddyddiau, ac na ddod ti dy fryd ar bechu, na thorri ei orchymynnion ef. Gwna gyfiawnder tra fyddech byw, ac na rodia yn ffyrdd anwiredd: canys o dilyni wirionedd dy holl weithreddedd a lwyddant, a phawb a’r a wnêl cyfiawnder.
7Dod ti elusen o’r peth a fyddo gennit, ac na chenfigenned dy lygad wrth roddi dy elusen: ac na thro dy ŵyneb oddi wrth neb tlawd, ac ni thry Duw ei wyneb oddi wrthit tithe.
8Fel y byddo gennit yr amlder, dot o honaw elusen, os ychydig fydd gennit, o ychydig nac arswyda roi elusen.
9Canys y tryssori i ti dy hûn wobr daionus erbyn y dydd anghenrheidiol.
10O blegit elusen a wared rhag angeu, ac a lestair ddyfod i’r tywyllwch.
11O herwydd cêd ddaionus yw eluseni i hawb a’r ai gwnêl ger bron y Goruchaf.
12Fy mab gochel bob godineb, a chymmer wraig o dylwyth dy henafiaid, ac na chymmer estrones yr hon nid ydyw o lwyth dy dâd: canys plant y prophwydi ydym: Noe, Abraham, Isaac Iacob oeddynt ein tadau o’r dechreuad, cofia fy mab iddynt oll briodi gwragedd oi cenedl eu hûn, ac hwy a fuant ddedwydd yn eu plant, ai hîl a feddianna ’r ddaiar.
13Ac yr awran fy mab câr dy frodyr, ac na fydded diystyr gennit yn dy galon, o’th dylwyth (meibion a merched dy bobl) gymmeryd it wraig: canys o ddiystyrwch y daw dinistr a dirfawrgythryfwl: ac o drahusdra y daw prindêr a mawr eisieu, o herwydd trahusdra yw mam tlodi.
14Nac attal gyd â thi gyflog neb a’r a wnaeth dy waith, eithr tâl iddo yn ebrwydd: ac os gwasanaethi di Dduw, ti a gei daledigaeth: edrych arnat dy hun fy mab yn dy holl weithredoedd, a bydd ddiesceulys ym mhob tro a wnelech.
15Y peth sydd gâs gennit dy hûn na wnâ i arall: nac ŷf win i feddwdod, ac na fynn feddwdod gyd â thi i ymdaith.
16Dod ti o’th fara i’r newynog, ac o’th ddillad i’r noeth: ac o bob amlder dod elusen, ac na fydd lygad-genfigennus wrth roi eluseni.
17Bydd helaeth o’th fara ar fedd y cyfiawn, ac na ddod i’r pechaduriaid
18Gofyn gyngor i bob vn synhwyrol, at na wrthod ti fyth gyngor buddiol.
19Mola ’r Arglwydd dy Dduw bob amser, a deisyf arno iniawni dy ffyrdd a chwbl o’th lwybrau, a gwneuthur dy amcannion yn llwyddiannus: canys ni all vn genhedlaeth roddi cyngor, eithr yr Arglwydd ei hun sydd yn rhoddi pob daioni, ac efe a ddrostwng y neb a fynno, fel y mynno: yr awran gan hynny fy mab cadw i’th gof fyng-orchymynnion, ac na ddeleuer hwynt o’th feddwl.
20Ac yn awr yr ydwyf yn dangos it, adel o honofi ddêc talent o arian gyd â Gabael brawd Gabrias yn Rages dinas Media.
21Am hynny nac ofna fy mab o ran ein myned ni mewn tlodi, y mae i ti ddigon od ofni di Dduw, a gochelud pechod, a gwneuthur y peth a fyddo cymmeradwy ger ei fron ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.