1.Samuel 9 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IX.Saul wedi methu ganddo gael assynnod ei dâd, 6 Yn myned i ymofyn a Samuel am danynt hwy. 19 Yn ciniâwa, ac yn lletteu gyda Samuel, ac yn cael argoelion y bydde efe frenin.

1Ac yr oedd gŵr cadarn nerthol o Beniamin, ai enw Pen.14.51.|1SA 14:51. 1.Cron.8.33.Cis mab Abiel fab Zeror, fab Becorath, fab Aphiah, mab i wr o Iemini yn gadarn o nerth.

2Ac iddo ef yr oedd mab ai enw Saul, yn ŵr ieuangc, a thêg, ac nid neb o feibion Israel degach nag ef: oi yscwydd i fynu yr oedd yn vwch na’r holl bobl

3Ac assynnod Cis tad Saul a gyfrgollasent, yna y dywedodd Cis wrth Saul ei fab, cymmer yn awr vn o’r llangciau gyd a thi, a chyfot, dôs, cais yr assynnod.

4Ac efe a aeth trwy fynydd Ephraim, ac a drammwyodd drwy wlâd Salisa, ac nis cawsant yna y trammwyasant trwy wlâd Salim, ac nis ac efe a aeth trwy wlâd Iemini, ond nis cawsant

5Hwynt a ddaethant i wlâd Zuph, yna y dywedodd Saul wrth ei langc yr hwn gyd ag ef, tyret a dychwelwn rhac i’m tad beidio a’r assynnod, a gofalu am danom ni.

6Dywedodd yntef wrtho ef, wele yn awr yn y ddinas hon ŵr i Dduw, a’r gwr anrhydeddus, yr hyn oll a ddywedo efe gan ddyfod a ddaw: awn yno yn awr, nid hwyrach y mynega efe i ni y ffordd yr hon y mae i ni fyned iddi.

7Yna y dywedodd Saul wrth ei langc, wele od awn ni pabeth a ddygwn ni i’r gŵr? canys y bara a ddarfu yn ein llestri ni, a gobr nid iw ddwyn i ŵr Duw: beth gennim?

8A’r llangc a attebodd eilwaith Saul, ac a ddywedodd: wele cafwyd gyd a mi bedwaredd ran sicl o arian: ac mi a roddaf i ŵr Duw er mynegi i ni ein ffordd.

9(Gynt yn Israel fel hyn y dywede gŵr wrth fyned i ymgynghori a Duw, deuwch, ac awn hyd at y gweledudd: canys y prophwyd heddyw a elwid gynt yn weledudd. )

10Yna y dywedodd Saul wrth ei langc, da y dywedi, tyret, awn: felly yr aethant i’r ddinas yr hon yr gŵr Duw ynddi.

11Fel yr oeddynt yn myned i riw y ddinas, yna hwy a gawsant llangcesau yn dyfod allan i dynnu dwfr: ac a ddywedasant wrthynt, a’r gweledudd ymma?

12Hwythau ai hattebasant hwynt, ac a ddywedasant, ydyw wele o’th flaen: bryssia yr awr hon, canys heddyw y daeth efe i’r ddinas, o herwydd aberth heddyw gan y bobl yn yr vchelfa.

13Pan ddeloch gyntaf i’r ddinas, chwi ai cewch ef cyn myned i fynu i’r vchelfa i fwytta, canys ni fwyttu y bobl hyd oni ddelo efe, o herwydd efe a fendiga yr aberth, ar ôl hynny y bwyttu y rhai a wahoddwyd, am hynny ewch i fynu canys heddyw y cewch ef.

14Felly’r aethant i fynu i’r ddinas, ddaethant i ganol y ddinas, wele yna Samuel yn dyfod iw cyfarfod, i fyned i fynu i’r vchelfa.

15 Pen.15.1.|1SA 15:1. Act.13.21. A’r Arglwydd a fynegase yng-hlust Samuel (vn diwrnod cyn dyfod Saul) gan ddywedyd:

16Yng-hylch y pryd y foru’r anfonaf attat ti ŵr o wlad Beniamin, a thi ai heneini ef yn flaenor ar fy mhobl Israel, ac efe a wared fy mhobl o law y Philistiaid: canys edrychais ar fy mhobl, o herwydd daeth eu gwaedd attaf.

17Pan ganfu Samuel Saul, yna’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, wele y gŵr yr hwn a ddywedais wrthit ti, hwn a lywodraetha ar fy mhobl.

18Yna Saul a nessaodd at Samuel ynghanol y porth, ac a ddywedodd: mynega i mi attolwg pa le ymma tŷ y gweledudd?

19A Samuel a attebodd Saul, ac a ddywedodd, myfi y gweledudd, dos i fynu o’m blaen i’r vchelfa, a bwyttewch gyd a’m fi heddyw, a mi a’th ollyngaf y boreu, ac mi a fynegaf i ti yr hyn oll a ewyllysiech di.

20Ac yr assynnod y rhai a gyfrgollasant gennit er ys tri-dieu, na ofala am danynt, canys cafwyd hwynt: ac i bwy holl bethau dymunol Israel, onid i ti, ac i holl dŷ dy dad ti?

21Yna Saul a attebodd ac a ddywedodd, onid mab Iemini o’r lleiaf o lwythau Israel? a’m teulu leiaf o holl deuluoedd llwyth Beniamin, a pha ham y dywedaist wrthif y modd hyn?

22A Samuel a gymmerth Saul ai langc, ac ai dûg hwynt i’r stafell, ac a roddes iddynt le o flaen y gwahodd-wŷr, a hwynt yng-hylch deng-wr ar hugain.

23A Samuel a ddywedodd wrth y côg, dyro y rhan yr hon a roddais attat ti: y rhan am yr hon y dywedais wrthit, cadw hon gyd a thi.

24Yna y côg a gyfododd ysgwyddoc a’r hyn arni, a ai gosodes ger bron Saul, ac a ddywedodd, wele y gweddill, gosot ger dy fron, bwytta, canys erbyn y pryd hyn y cadwyd ef i ti, gan ddywedyd, y bobl a wahoddais i: a bwyttaodd Saul gyd a Samuel y dydd hwnnw.

25Pan ddescynnasant o’r vchelfa ddinas, yna yr ymddiddanodd efe a Saul ar benn y tŷ.

26A phan gyfodasant yn foreu yng-hylch codiad y wawr, yna y galwodd Samuel ar Saul ar benn y tŷ gan ddywedyd: cifot fel i’th hebryngwyf ymmaith, yna y cyfododd Saul, ac efe a Samuel a aethant ill dau allan.

27Hwynt a ddescynnasant i gwrr eithaf y ddinas, yna Samuel a ddywedodd wrth Saul, dywet wrth y llangc am fyned o’n blaen ni, (felly’r aeth efe) ond saf di yr awr hon, a mynegaf i ti air Duw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help