Diharebion 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Cyngor i wrando tâd, 5 I wasanaethu Duw, 11 I dderbyn ei gospedigaeth, 22 Ac i ddilyn ei air ef.

1Fy mab na ollwng fyng-hyfraith i tros gof, ond Deu.8.1.|DEU 8:1. 30.16.cadwed dy galon di fyng-orchymynnion.

2Canys hwynt a estynnant dy ddyddiau, a blynyddoedd dy fywyd a’th heddwch.

3Na âd ti i drugaredd a gwirondeb ymadel â thi: cylymma hwy am dy wddf, scrifenna hwy ar lech dy galon.

4Felly y cei di râs, a deall da ger bron Duw, a dynnion.

5Gobeithia yn yr Arglwydd a’th holl galon, ac nac ymddyried i’th doethineb dy hûn.

6Yn dy holl ffyrdd cydnebydd di ef, ac efe a hyffordda dy lwybrau di.

7 Rhuf.12.16. Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hûn: ond ofna yr Arglwydd, a thynn ymmaeth oddi wrth ddrygioni.

8Hynny a fydd iechyd i’th fogel, a mêr i’th escyrn.

9 Exod.23.19. Deut.26.2. Anrhydedda yr Arglwydd a’th gyfoeth, ac a’r peth pennaf o’th holl ffrwyth:

10Felly y llenwir dy yscuboriau â digonoldeb, a’th win-wryfoedd a lenwir o wîn newydd.

11Fy mab na wrthot gerydd yr Arglwydd, ac na laesa ar ei gospedigaeth ef.

12Canys Hebr.12.5.|HEB 12:5. Gweled.3.19y neb a fyddo Duw yn ei garu, efe ai cerydda megis tâd ei fab annwyl.

13Gwyn ei fyd y dŷn a gaffo ddoethineb, a’r dŷn a ddygo ddeall allan.

14Canys gwell yw ei marsiandiaeth hi, na marsiandiaeth o arian, ei chynnyrch hi sydd well nag aur.

15Gwerthfawrocach yw hi nâ gemmau, a’r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi hi.

16Hir hoedl sydd yn ei llaw ddehau hi, ac yn ei llaw asswy y mae cyfoeth a gogoniant.

17Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfryd, ai holl lwybrau hi ydynt lwyddiannus.

18Pren bywyd yw hi i’r neb a ymaflo ynddi: gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi.

19Yr Arglwydd trwy ddoethineb a seiliodd y ddaiar, trwy ddeall y siccrhaodd efe y nefoedd.

20Drwy ei wybodaeth ef yr holltodd y dyfndêrau a’r cwmylau, ac y defnynna yr wybrennau wlith.

21Fy mab, na ollwng hwynt allan o’th olwg, cadw ddoethineb, a challineb.

22Yna y byddant yn fywyd i’th enaid, ac yn râs i’th wddf.

23Yna y cei di rodio dy ffordd yn ddiofal, ac ni friwi dy droed.

24Pan orweddech, nid ofni, a’th gwsc fydd melys tra orweddech.

25Nid rhaid it ofni braw disymmwth, na rhag dinistriad yr annuwiol pan syrthio arnynt.

26Canys yr Arglwydd a fydd dy hyder di, ac a geidw dy droed rhag ei ddal.

27Na attal ddaioni oddi wrth y rhai y byddo ei esiau arnynt, pan allech ei wneuthur.

28Na ddywet wrth dy gymmydog, cerdda ymmaith, a thyret amser arall, y fory mi a roddaf i ti a chennyt

29Na feddylia ddrwg yn erbyn dy gymmydog, ac yntef yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl.

30Nac ymryson â neb heb achos, oddieithr iddo wneuthur drwg i ti.

31Na chenfigenna wrth ŵr traws, ac na ddewis yr vn oi ffyrdd ef.

32Canys ffiaidd gan yr Arglwydd y cyndyn, ond gyd a’r rhai iniawn y mae ei gyfrinach ef.

33Melldith yr Arglwydd sydd yn-nhŷ yr annuwiol, ond efe a fendithia drigfa y cyfiawn.

34Efe a watwar y gwatwarus, ond ei râs a rydd efe i’r vfydd.

35Y doethion a etifeddant anrhydedd, a gwarth derchafiad ffyliaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help