Ionas 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Ail hebryngiad Ionas i Ninife. 5 Ac edifeirwch y Ninifeaid.

1A gair yr Arglwydd a ddaeth yr ail-waith at Ionas gan ddywedyd:

2Cyfot dôs i Ninife y ddinas fawr, a phregetha iddi y bregeth a lefarwyf wrthit.

3Ac Ionas a gyfododd ac a aeth i Ninife yn ôl gair yr Arglwydd, a Ninife ydoedd ddinas fawr iawn o daith tri diwrnod.

4Ac Ionas a ddechreuodd fyned i’r ddinas daith vn diwrnod, ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, deugain nhiwrnod etto, yna Ninife a gwympir.

5A gwŷr Ninife a gredasant i Dduw, a chyhoeddasant ympryd, a gwiscasant sach-liain o’r mwyaf hyd y lleiaf o honynt.

6A’r gair a ddaeth at frenin Ninife, ac efe a gyfododd oi frenhin-faingc, ac a ddioscodd oddi am dano ei frenhin-wisc, ac a roddes am dano liain sach, ac a eisteddodd mewn lludw.

7Yna y cyhoeddwyd, ac y dywedwyd yn Ninife drwy orchymyn y brenin ai bendefigion, gan ddywedyd: dŷn, ac anifail, eidion, a dafad, na phrofant ddim, na phorant, ac nac yfant ddwfr.

8Gwisced dyn, ac anifail sach-len, a galwed ar Dduw yn lew, a datroed pob vn oddi wrth ei ffordd ddrygionus, ac oddi wrth y camwedd yr hwn yn eu dwylo hwynt.

9Pwy a ŵyr a drŷ Duw, ac edifarhau, a datroi o angerdd ei ddig fel na difether ni?

10A gwelodd Duw eu gweithredoedd hwynt, sef troi o honynt oi ffyrdd drygionus, ac edifarhaodd Duw o’r drwg a ddywedase y gwnae efe iddynt, ac ni’s gwnaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help