1OH Dduw y tadau, ac Arglwydd y drugaredd, yr hwn a wnaethost bob peth a’th air.
2A thrwy dy ddoethineb a osodaist ddŷn Gen.1.28.i lywodraethu ar y creaduriaid a wnaethost di,
3Ac i lywodraethu y byd yn iniawu, at yn gyfiawn, ac i roddi barn a meddwl iniawn:
4 1.Bren.3.9. Dôd ei i mi ddoethineb yr hon sydd yn eistedd ar dy orseddfeudd di, ac na wrthot fi yn blentyn i ti.
5Canys myfi Psal.116.16.dy wâs a mab dy law forwyn ydwyf ddŷn llesc, ac o amser byr, ac yn llai mewn deall barnedigaeth a chyfraith.
6O blegit yr hwn sydd berffeithiaf ym mysc meibion dynion a gyfrifir yn ddioddym os ymmaith y bydd y ddoethineb yr hon sydd oddi wrthit ti.
7 1.Cron.28.5. 2.Cron.1.9. Ti am dewisaist i yn frenin ar dy bobl, at yn farn-wr ar dy feibion a’th ferched.
8Dywedaist am adailiadu teml ar dy fynydd sanctaidd, ac allor yn ninas dy breswylfod, portreiad y tabernacl sanctaidd, yr hwn a ddarperaist ti o’r dechreuad.
9A chyd â thi yr oedd doethineb yr hon a adwaene dy weithredoedd di, Dihar.8.22. Ioan. 1.1.2.3.ac a oedd bresennol pan wnaethost di y bŷd, ac a ŵyr beth sydd yn rhyglyddu bodd yn dy olwg di, a pheth sydd iniawn wrth dy orchymynnion di.
10Anfon hi o’th nefoedd sanctaidd, a gyrr hi o orseddfaingc dy ogoniant, fel y cymero hi boen yn bresennol gyd â mi, ac y gwypwyf fi beth sydd fodlon gennit ti.
11Canys y mae hi yn gŵybod, ac yn deall pob peth: at hi a’m harwain i yn fyng-weuthredoedd yn sobr, ac a’m ceidw i yn ei gogoniant hi.
12Felly y bydd fyng-weithredoedd i yn gymmeradwy, ac y barnaf fi dy bobl di yn gyfiawn, ac y byddaf fi addas i orseddfaingc fy nhâd.
13 Esa.40.13. Rhuf.11.34. 1.Cor.2.16. Canys pa ddŷn a ŵyr gyfrinach Duw: a phwy a feddwl beth a ewyllysia Duw:
14O blegit ofnus yw meddyliau dynion, ac ansiccr yw ein hamcannion ni.
15Canys y corph llwgredic sydd yn drwm i’r enaid, a’r breswylfod ddaiarol sydd yn faich i’r meddwl, yr hwn sydd yn gofalu am lawer o bethau.
16A phrin y medrwn ni ddeall y pethau ydynt ar y ddaiar, a thrwy boen yr ydym ni yn cael y pethau ydynt yn ein dwylo ni: pwy gan hynny a ôlrhain allan y pethau ydynt yn y nefoedd?
17Ie pwy a ŵyr dy gyfrinach di oddieithr i ti roddi doethineb, ac anfon dy Yspryd sanctasdd o’r vchelder:
18Felly yr inionir ffyrdd y rhai ydynt ar y ddaiar, ac y ddyscir i ddynion y pethau a’th fodlonant di, a thrwy ddoethineb y cadwyd hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
