1Yna Naomi ei chwegr hi a ddywedodd wrthi hi, fy merch oni cheisiafi lonyddwch i ti ’r hwn fyddo dâ i ti?
2Ac yn awr ein cyfathrach-wr ni Booz yr hwn y bûosti gyd ai langcesi? wele efe yn nithio yn llawr dyrnu ’r haidd y nos hon.
3Ymolch gan hyny, ac Psal.104.15. Matth.6.17.ymîra, a gosot dy ddillad am danat, a dos i wared i’r llawr dyrnu: na fydd gydnabyddus i’r gŵr nes iddo orphen bwytta, ac yfed.
4A phan gysco efe, yna gwybydd y fan yr hon y gorweddo efe ynddi, yna dôs, a dinoetha ei draed ef, a gorwedd: ac efe a fynega i ti ’r hyn a wnelech.
5A hi a ddywedodd wrthi, gwnaf yr hyn oll a erchaist i mi.
6Felly hi a aeth i wared i’r llawr dyrnu, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchymynnase ei chwegr iddi.
7Pan fwyttaodd Booz, a yfodd fel y lawenhaodd ei galon, yna efe a aeth i gyscu i gwrr yr yscafn: hithe a ddaeth yn ddistaw, ac a ddinoethodd ei droed ef, ac a orweddodd.
8Ac yng-hanol y nôs y gŵr a ddychlamodd, ac a ymdrôdd: ac wele wraig yn gorwedd wrth ei draed ef.
9Yna efe a ddywedodd, pwy ti? a hi a ddywedodd myfi Ruth dy lawforwyn, lleda gan hynny dy aden tros dy lawforwyn, canys fyng-hyfathrachwr i ti.
10Ac efe a ddywedodd, bendigêdic fy merch gan yr Arglwydd, gwnaethost yn well dy drugaredd diwethaf na’r gyntaf: gan nad aethost ar ôl gwŷr ieuaingc, na thlawd na chyfoaethog.
11Ac yn awr fy merch nac ofna, yr hyn oll a ddywedaist a wnaf it: canys holl ddinas fy mhobl a ŵyr mai gwraig rinweddol ti.
12Ac yn awr gwir yw fy mod i yn gyfathrach-wr: etto er hynny y mae cyfathrach-wr nês na myfi.
13Aros hêno; a’r boreu os efe a ymgyfathracha a thi, dâ yw, ymgyfathrached, ond os efe ni fyn ymgyfathrachu a thi, yna myfi a ymgyfathrachaf a thi mai byw ’r Arglwydd: cwsc hyd y boreu.
14A hi a orweddodd with ei draed ef hyd y boreu, a hi a gyfododd cyn yr adwaene neb ei gilydd: canys efe a ddywedodd, na chaffer gwybod ddyfod y wraig i’r yscubor.
15Ac efe a ddywedodd, moes dy fantell yr hon am danat, ac ymafl ynddi, a hi a ymaflodd ynddi: ac efe a fesurodd chwech o haidd, ac ai gossododd arni, a hi aeth i’r ddinas.
16Pan ddaeth hi at ei chwegr, hi a ddywedodd, pwy ti fy merch? a hi a fynegodd iddi ’r hyn oll a wnaethe y gŵr iddi hi.
17A hi a ddywedodd y chwech hyn o haidd a roddodd efe i mi: canys dywedodd wrthif, ni ddeui yn wag at dy chwegr.
18Yna y dywedodd hithe, aros fy merch oni ŵypech pa fodd y digwyddo y peth canys ni orphywys y gŵr nes gorphen y peth hyn heddyw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
