Pregeth-wr 12 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XII.Na ddylid oedi duwioldeb. 8 I ba le yr aiff dyn. 12 Pa athrawiaeth sydd iw dilyn.

1Bwrw ddig allan o’th galon a thro ymmaith ddrwg oddi wrth dy gnawd: canys mêbyd ac ieuengctid ydynt wagedd:

2A choffa dy greawdr yn nyddiau dy ieuengtid, cyn dyfod y dyddiau blin, a nesau’r blynyddoedd yn y rhai y dywedi, nid oes i mi yn yr rhai hyn ddim diddânwch:

3Cyn tywyllû’r haul, a’r goleuni a’r lleuad, a’r sêr, a chyn dymchwelyd y cwmylau ar ôl y glaw:

4Yr amser y cryna ceidwaid y tŷ, ac y crymma y gwŷr cryfion, ac y metha y rhai sydd yn malu wedi eu treulio, ac y tywylla y rhai sydd yn edrych drwy ffenestri.

5A chaeu’r pyrth oddi allan, pan ballo swn y felin, a chyfodi wrth lais yr aderyn, a thynnu i lawr hôll ferched cerdd.

6Ie yr ofnant beth vchel, ac yr arswydant yn y ffordd, ac y blodeua’r pren Almon, ac yr ymlwytha y ceiliog rhêdyn, a thorri chwant pan êlo dyn i dŷ ei dragwyddoldeb, a’r galarwyr yn myned o bôb tu yn yr heol.

7Cyn torri yr êdef arian, a chyn torri yr cawg aur, a chyn torri’r piser gerllaw’r ffynnon, a chyn torri’r olwyn wrth y pydew.

8Pan dychwelo’r pridd i’r ddaiar fel y bu gynt, ac i’r yspryt ddymchwelyd at Dduw rhwn ai rhoes ef.

9Gwagedd ô wagedd (medd y pregeth-wr) gwagedd yw’r cwbl.

10Yr oedd y pregeth-wr etto yn ddoethach, efe a ddyscodd ŵybodaeth i’r bobl, a thrwy fefyrio a thrwy chwilio efe a wnaeth lawer o ddiharebion.

11Chwiliodd y pregeth-wr am eiriau melus, ac scrythur iniawn, a geiriau gwirionedd.

12Geiriau’r doethion ydynt gyffelyb i symbylau, a chyffelyb i hoelion cynnull-wŷr wedi eu gyrru i mewn y rhai a roes yr vn bugail.

13Am hynny, yn hytrach fy mâb cymmer rybudd wrth hyn, canys nid oes diben ar wneuthur llyfrau lawer, darllen llawer o lyfrau a ddeffygia y cnawd.

14Swm y cwbl a glywyd ofna Dduw a chadw ei orchymynnion: canys hyn yw holl ddylêd dyn.

15Canys Duw a ddwg bôb gweithred i’r farn, a phôb peth dirgel, pa vn bynnac fyddo ai drwg ai da.

Terfyn llyfr y pregeth-wr

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help