1Yna Bildad y Suhiad a atebodd, ac a ddywedodd:
2Hyd pa hŷd y dywedi di hynny: ac geiriau dy enau yn wynt cryf?
3A ŵyra Duw farn? ac a ŵyra’r Holl-alluog gyfiawnder?
4Os dy feibion a bechâsant yn ei erbyn ef: am hynny y gollyngodd efe hwy i feddiant eu camwedd eu hun.
5Os tydi a foreu-godi at Dduw, ac a wedii ar yr Holl-alluog,
6Os pur, ac iniawn di, yn wîr efe a ddeffru attat ti yr awron, ac a wna drigfa dy gyfiawnder yn llwyddiannus.
7Er bod dy ddechreuad yn fychan: etto dy ddiwedd a gynnydda yn ddirfawr.
8O blegit gofyn attolwg i’r oes gyntaf, ac ymbaratôa i chwilio eu henafiaid hwynt.
9Canys doe’r ydym ni, ni ŵyddom o herwydd cyscod ein dyddiau ni ar y ddaiar.
10Onid hwynt a’th ddyscant di, oni ddywedant i ti? ac ddygant ymadroddion allan oi calon.
11A gyfyd brŵyn heb wlybanieth? a dyf gwairglodd heb ddwfr?
12Tra fyddo hi etto yn ei ffrwyth heb ei thorri, y gwywa hi o flaen pôb glas-welltyn.
13Felly llwybrau pawb a’r sydd yn gollwng Duw dros gof: ac y derfydd am obaith y rhagrhithiwr.
14Yr hwn y torrir ymmaith ei hyder: ac tŷ pryf-coppyn ei obaith ef.
15Efe a bwyssa ar ei dŷ, ac ni saif: efe a ymeifl ynddo, ac ni pheru.
16Y mae efe ir o flaen yr haul: a thros ei ardd y daw ei frig.
17Plethir ei wraidd ef yng-hylch ffynnon, tŷ cerrig y trŷ efe.
18Os diwreiddia efe allan oi lê: efe ai gwâd ef ni’th welais.
19Wele dymma y modd y llawenycha efe: sef gallu o honaw flaguro mewn pridd arall.
20Wele ni ddiystyra Duw y perffaith: ac nid ymeifl efe yn llaw y rhai drygionus,
21Oni lanwo efe dy enau di a chwerthin: a’th wefusau o orfoledd.
22[Oni] wiscer dy gasedigion di â chywilydd, fel na byddo lluesty’r annuwiol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
