1Ac angel yr Arglwydd a ddaeth i fynu o Gilgal i Bochim, ac a ddywedodd: dugum chwi i fynu o’r Aipht, ac ar weiniais chwi i’r wlâd yr hon y tyngais wrth eich tadau, ac a ddywedais ni ddiddymmaf fyng-hyfammod a chwi byth.
2Na Deut.7.2. deut.12.3.wnewch chwithau gyfammod a thrigolion y wlâd hon, drylliwch eu hallorau: etto ni wrandawsoch ar fy llef i, pa ham y gwnaethoch hyn?
3Am hynny y dywedais, ni yrraf hwynt allan o’ch blaen chwi: eithr byddant i chwi Iosua.23.13.[yn ddrain] yn eich hystlysau, ai duwiau hwy fyddant i chwi yn fagl.
4A phan lefarodd angel yr Arglwydd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel: yna y bobl a dderchafasant eu llef, ac a ŵylasant.
5Ac a alwasant enw y lle hwnnw Bochim: ac yno’r aberthasant i’r Arglwydd.
6Ac Iosuah a ollyngodd y bobl ymmaith: a meibion Israel a aethant bôb vn iw etifeddiaeth, i feddiannu y wlâd.
7A’r bobl a wasanaethasant yr Arglwydd holl ddydiau Iosuah: a holl ddyddiau’r henuriaid y rhai a fuant fyw ar ôl Iosuah, y rhai a welsent holl fawr-waith yr Arglwydd yr hwn a wnaethe efe er Israel.
8A bu farw Iosuah mab Nun gwâs yr Arglwydd, yn fab cant a dêc o flwyddau.
9A chladdasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Iosu.24.30.Thimnath-Heres ym mynydd Ephraim: o du’r gogledd i fynydd Gaas.
10A’r holl oes honno hefyd a gasclwyd at eu tadau: a chyfododd oes arall ar eu hol hwynt, y rhai nid adwaenent yr Arglwydd, nai weithred oedd y rhai a wnaethe efe er Israel.
11Yna meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng-olwg yr Arglwydd: ac a wasanaethasant Baalim.
12Ac a wrthodasant Arglwydd Dduw eu tadau yr hwn ai dugase hwynt o wlâd yr Aipht, ac a aethant ar ôl duwiau dieithr o dduwiau y bobloedd y rhai oi hamgylch, ac a ymgrymmasant iddynt: felly y digiasant yr Arglwydd.
13Canys gwrthodasant yr Arglwydd, a gwasanaethasant Baal, ac Astaroth:
14Yna y llidiodd digllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel, ac efe ai rhoddodd hwynt yn llaw’r anrheith-wŷr y rhai ai hanrheithiasant hwynt: ac ai gwerthasant hwy Psal.44.12. esa.50.1.i law eu gelynnion o amgylch, fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynnion.
15I ba le bynnac yr aethant, llaw’r Arglwydd oedd yn ddrwg yn eu herbyn hwynt, fel y llefarase’r Arglwydd, ac fel y tyngase ’r Arglwydd wrthynt hwy: a bu gyfyng iawn arnynt hwy.
16Yna yr Arglwydd a gododd farn-wŷr, y rhai ai hachubasant hwy o law eu gorthrymwŷr.
17Ond ni wrandawsant ychwaith ar eu barn-wŷr, eithr putteiniasant ar ôl duwiau dieithr, ac ymgrymmasant iddynt: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd yr hon y rhodiase eu tadau hwynt, gan wrando ar orchymynnion yr Arglwydd: ni wnaethant hwy felly.
18A phan gode yr Arglwydd farn-wŷr arnynt hwy, yna’r Arglwydd fydde gyd a’r barn-wŷr, ac ai gwarede hwynt o law eu gelynnion holl ddyddiau y barn-wŷr hynny: canys yr Arglwydd a dosturie wrth eu griddfan hwynt rhac eu gorthrym-wŷr, ai custydd-wŷr.
19A phan fydde Pen.3.12.farw y barn-ŵr, dychwelent, ac ymlygrent yn fwy nai tadau, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, iw gwasanaethu hwynt, ac i ymgrymmu iddynt: ni pheidiasant ai gweithredoedd, nac ai ffordd ddrygionus.
20Yna digllonedd yr Arglwydd a lidie yn erbyn Israel: ac efe a ddywede, o blegit i’r genhedlaeth hon drosseddu fyng-hyfammod yr hwn a orchymynnais iw tadau hwynt, ac na wrandawsant ar fy llais,
21Ni chwanegaf inne yrru ymmaith neb oi blaen hwynt, o’r cenhedloedd y rhai a adawodd Iosuah pan fu farw,
22I brofi Israel drwyddynt hwy, a gadwent hwy ffyrdd yr Arglwydd gan rodio ynddynt fel y cadwodd eu tadau hwynt, neu beidio.
23Felly’r Arglwydd a adawodd y cenhedloedd hynny heb eu gorescyn yn ebrwydd: ac ni roddoddd hwynt yn llaw Iosuah.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.