Deuteronomium 8 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VIII.2 Duw yn profi beth oedd yng-halon yr Israeliaid gan eu darostwng hwynt. 3 Dyn yn byw wrth air Duw. 5 Duw yn maethdrino’r lsraeliaid, fel gwr ei fâb. 7 Gwlâd yr addewid pa fâth sydd arni. 10 Bod yn ddiolchgar i Dduw am ei roddion sydd raid. 18 Trwy Dduw y daw cyfoeth. 19 Anghofio Duw ai roddion a bâr fethiant.

1Edrychwch am wneuthur pôb gorchymyn, yr hwn yr wyfi yn ei orchymyn it heddyw, fel y byddoch fyw, ac y cynnyddoch, ac yr eloch, i mewn, ac y gorescynnoch y wlâd, yr hon a addawodd yr Arglwydd wrth eich tadau trwy lŵ.

2A chofia’r holl ffordd, yr hon yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di y deugain mlhynedd hyn trwy’r anialwch er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn yn dy galon, a gedwit ti ei orchymynnion ef, ai nas

3Am hynny i’th ddarostyngodd, ac i’th newynodd di, ond efe a’th fwydodd a’r Manna yr hwn nis adwaenit, ac nis adwaine dy dadau, fel y gwnae efe it ŵybod Matth.4 4.nad wrth fara yn vnic y bydd fyw dyn, ond wrth bôb a’r sydd yn dyfod allan o enau’r Arglwydd, y bydd fyw dŷn.

4Dy ddillad ni heneiddiodd oddi am danat, a’th droed ni chwyddodd y deugain mlhynedd hyn.

5Cydnebydd gan hynny yn dy galon, yr Arglwydd dy Dduw yn dy hyddyscu di, fel y dysc gŵr ei fâb ei hun.

6A chadw orchymynnion yr Arglwydd y Dduw, gan rodio yn ei ffyrdd ai ofni ef.

7Am fod yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddwyn i mewn i wlâd dda, gwlâd afonydd, a dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y gwastad, ac yn y mynydd.

8Gwlâd gwenith, a haidd, a gwinwydd, a ffigus-wydd, a phomgranad-wydd, gwlâd olew oliwydden, a mêl.

9Gwlâd yr hon ni fwyttei fara ynddi mewn prinder, ni bydd eisie dim arnat ynddi: gwlâd yr hon ei cherric hi yn haiarn, ac oi mynyddoedd y cloddi brês.

10Pan fwyttêch, a’th ddigoni: yna y bendithi’r Arglwydd dy Dduw, am y wlâd dda yr hon a roddes efe i ti.

11Cadw arnat rhac anghofio o honot yr Arglwydd dy Dduw heb gadw ei orchymynnion, ai farnedigaethau, ai ddeddfau, ef, y rhai’r ydwyfi yn eu gorchymyn it heddyw.

12Rhac it fwytta, a’th ddigoni, ac adailadu tai têg, a thrigo ynddynt,

13A lluossogi o’th warthec, a’th ddefaid di, ac amlhau o arian, ac aur gennit, a chwanegu o’r hyn oll i ti:

14A derchafu o’th galon, ac anghofio o honot yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddûg allan o wlâd yr Aipht o dŷ y caethiwed.

15Yr hwn a’th dywysodd di trwy’r anialwch mawr, ac ofnadwy seirph lloscadwy, ac scorpionau, a syched lle nid dwfr: yr Num.20.11.hwn a dynnodd i ti ddwfr allan o’r graig gallestr.

16Yr hwn a’th fwydodd yn yr anialwch a Manna, yr hwn nis adwaene dy dadau, Exod.16.15.er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni iti, yn dy ddiwedd di.

17[Rhac] dywedyd o honot hefyd yn dy galon, fy nerth fy hun, a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn.

18Ond cofia yr Arglwydd dy Dduw, o blegit efe yw yr hwn sydd yn rhoddi nerth i ti, i beri cyfoeth, fel y cadarnhâe efe ei gyfammod yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau, fel y dydd hwn.

19Ac os gan anghofio’r anghofi’r Arglwydd dy Dduw, a dilyn duwiau dieithr, ai gwasanaethu hwynt, ac ymgrymmu iddynt: Deut.4 26yr ydwyfi yn testiolaethu yn eich erbyn chwi heddyw, gan ddifetha eich difethir.

20Fel cenhedloed y rhai y mae’r Arglwydd ar eu difetha o’ch blaen blaen chwi: felly y difethir chwithau, am n wrandawsoch ar lais yr Arglwydd eich Duw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help