Gweithredoedd yr Apostolion 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Iachâad y cloff efrydd, 12 Petr yn pregethu Crist.

1Petr hefyd ac Ioan a aethant i fynu i’r Deml yng-hyd, ar yr awr weddi, y nawfed.

2A rhyw ŵr, yr hwn oedd gloff o groth ei fam, a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y Deml yr hwn a elwid prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a elent i mewn i’r Deml.

3A phan welodd efe Petr ac Ioan ar fyned i’r Deml, efe a ddeisyfiodd gael elusen.

4A Phetr yn dal sulw arno gyd ag Ioan a ddywedodd: edrych arnom ni.

5Ac efe a graffodd arnynt, gan obeithio derbyn rhyw beth ganddynt.

6Yna y dywedodd Petr, arian ac aur nid oes gennif, eithr yr hyn sydd gennif, hynny yr wyf yn ei roddi i ti: yn enw yr Iesu Grist o Nazareth, cyfot a rhodia.

7A chan ei gymmeryd erbyn ei ddehaulaw efe a’i cyfododd ef i fynu, ac yn ebrwydd ei draed ef a’i fferau a gadarnhauwyd.

8A chan neidio i fynu efe a safodd, ac a rodiodd, ac a aeth gyd â hwy i’r Deml, gan rodio, a neidio, a moli Duw.

9A’r holl bobl a’i gwelodd ef yn rhodio, ac yn moli Duw.

10Ac yr oeddynt yn ei adnabod ef, mai efe oedd y neb a eisteddase wrth borth prydferth y Deml am elusen, ac hwy a lanwyd o ofn a synnedigaeth, am y peth a ddigwyddase iddo.

11Ac fel yr oedd yr efrydd hwnnw a iachausid, yn attal Petr ac Ioan, y rhedodd yr holl bobl yn synnedig attynt i’r porth a elwir Salomon.

12A phan welodd Petr hyn, efe a attebodd y bobl, ô wŷr o Israel, pa ham yr ydych yn rhyfeddu am hyn? a pha ham yr ydych yn hulldremmu arnom ni, fel pe trwy ein nerth neu ein duwioldeb ni y gwnaethem i hwn gerdded?

13Duw Abraham, ac Isaac, ac Iacob, Pen.5.30. Duw ein tadau ni, a ogoneddodd ei Fab Iesu, yr hwn a fradychasoch chwi, ac a wadasoch ger bron Pilat, pan farnodd efe ef iw ryddhau.

14Eithr chwi a wadasoch y Sanct, a’r cyfiawn, ac a ddeisyfiasoch roddi i chwi ŵr yn llofrudd.

15A chwi a laddasoch dywysog y bywyd, yr hwn a godes Duw o feirw, o’r hyn yr ydym ni yn dystion.

16A thrwy ffydd yn ei enw ef, y nerthodd ei enw ef hwn, yr hwn a welwch, ac a adwaenoch: sef y ffydd yr hon drwyddo ef, a roes iddo ef yr iechyd hwn yn eich gŵydd chwi oll.

17Ac yn awr frodyr mi a wn i chwi wneuthur trwy anwybod: fel y eich pendefigion chwi hefyd.

18Eithr y pethau a ragfynegodd Duw trwy enau ei brophwydi oll, y dioddefe Crist, a gyflawnodd efe fel hyn.

19Am hynny edifarhewch, a dychwelwch, fel y deleuer eich pechodau, pan ddelo yr amseroedd i orphywys o olwg yr Arglwydd,

20A phan anfono efe Iesu Grist yr hwn a bregethwyd o’r blaen i chwi.

21Yr hwn sydd raid i’r nef ei dderbyn, hyd yr amseroedd yr adnewyddir pob peth, y rhai a ddywedodd Duw o’r blaen drwy enau ei holl sanctaidd brophwydi ef erioed.

22 Pen.7.37.|ACT 7:37. Deut.18.15. Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau, yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi brophwyd o’ch brodyr fel myfi: arno ef y gwrandewch ym mhob peth a ddyweto wrthych.

23Canys bydd, pa enaid bynnac ni wrandawo ar y prophwyd hwnnw, efe a ddestruwir o blith y bobl.

24A’r holl brophwydi hefyd o Samuel, ac o hynny allan, cynnifer ac a lefarasant, a fynegasant o’r blaen am y dyddiau hyn.

25Chwy-chwi ydych blant y prophwydi a’r cyfammod, yr hwn a wnaeth Duw a’n tadau ni, gan ddywedyd wrth Abraham: Gen.12.3. Gal.3.8. yn dy had ti hefyd y bēdithir holl dylwythau y ddaiar.

26Duw gan gyfodi ei Fab Iesu, a’i gyrrodd ef i chwi yn gyntaf i’ch bendithio fel y troech bob vn o honoch oddi wrth eich drygioni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help