Ecclesiasticus 19 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIX.Yn erbyn glothineb a godineb. 6 am ymadrodd pwyllog, 22 gwir ddoethineb 27 y modd yr adweinir dyn.

1Ni chyfoethoga gweithiwr meddw: a’r hwn sydd yn diystyru ychydig, a syrth o fesur ychydig.

2 Gen 19.33.|GEN 19:33. 1.Bren.11.1. Gwin a gwragedd sydd yn gyrru doethion ar encil.

3A’r hwn a lyno wrth butteniaid a fydd hŷf: eithr pydyrni a phryfed ai cânt ef yn etifeddiaeth, ac efe a wywa mewn mwy o siampl.

4Yr hwn sydd yn credu yn fuan sydd yscafn ei feddwl, Ios.22.12.a’r hwn sydd yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun a gyfeiliorna.

5Yr hwn sydd yn llawenychu mewn drygioni a gondemnir, yr hwn sydd yn gwrthwynebu melus-chwant sydd yn coroni ei fywyd.

6Yr hwn a attalio ei dafod a gyd-fyw a’r anhywaith, a’r hwn sydd yn casau siarad sydd yn llai ei niwed.

7Na ddad-ddywet air, ac ni bydd i ti niwed.

8Na fynega fuchedd arall wrth na chyfaill na gelyn, ac onid yn dy erbyn di y bydd y pechod na ddadcuddia ef.

9Canys efe a’th wrendu, ac a ddeil arnat ti, ac mewn amser efe a’th gasâ di.

10 Pen.22.22. Pan glywech air gâd iddo ef farw gyd â thi, a bydd ddiogel, o blegit ni rwyga efe di.

11Vn ffol a ofidia gan air fel yr hon sydd yn escor ar blentyn.

12[Fel] saeth yng-lŷn ym morddwyd vn, felly y mae gair ym mola y ffôl.

13Cerydda dy gyfaill rhag iddo wneuthur, ac os efe a wnaeth rhag gwneuthur mwy.

14 Lefit.19.17. Math.18.15. Cerydda dy gymmydog rhag iddo ddywedyd: ac os dywedodd, rhag iddo ddywedyd eil-waith.

15Cerydda dy gyfaill: o blegit mynych y mae cwyn heb achos.

16Hefyd na choelied dy galon di bob gair: y Iago3.2.mae vn a lithro ganddo air, ac nid oi fodd: a phwy ni lithra ei dafod?

17Cerydda dy gymmydog cyn bygwth, a dod le i gyfraith y Goruchaf, gan fod yn ddiddig: ofn yr Arglwydd yw dechreuad cymmeradwyaeth, a doethineb a bâr gariad ganddo ef: addysc bywyd yw gwybodaeth gorchymynnion yr Arglwydd: a’r rhai ydynt yn gwneuthur yr hyn sydd fodlon ganddo ef ydynt yn cael ffrwyth pren anfarwoldeb.

18Yr ofn gan yr Arglwydd yw pob doethineb, ac ym mhob doethineb y mae gwneuthuriad y gyfraith a gwybodaeth am ei holl alluogaeth ef: y gwâs yr hwn a ddywedo wrth ei feistr, ni wnaf yr hyn sydd fodlon pe gwnae efe wedi hynny, y mae efe yn digio ei faethudd.

19Nid doethineb yw gwybodaeth drygioni, ac lle y byddo cyngor pechaduriaid nid oes synnwyr.

20Y mae drygioni a hwnnw yn ffiaidd, ac y mae angall annoeth.

21Gwell yw ’r hwn sydd yn ofnus ddychrynnedig mewn deall, na’r hwn sydd yn rhagori mewn callineb, ac yn trosseddu cyfraith y Goruchaf.

22Y mae cyfrwystra diwyd a hynny yn anghyfiawn, ac y mae a drŷ ymmaith ffafor i ddangos barn: a doeth yw yr hwn sydd gyfiawn mewn barn.

23Y mae yn gwneuthur drygioni ryw vn wedi ymgrymmu, yn ddu: ac oi fewn yn llawn twyll tanllyd.

24Efe gan gyd-ostwng ei wyneb, a chymmeryd arno fod yn fyddar lle nid adweinir ef, a achub dy flaen di i wneuthur niwed.

25Ac os o eisieu gallu y rhwystrir iddo ef bechu, efe a wna ddrwg os caiff efe amser.

26Wrth y golwg yr adwainir gwŷr: ac wrth gyfarfod wyneb yr adwainir vn dehallus.

27 Pen.21.20. Gwisc gŵr, a chwerthiniad dannedd, a cherddediad dŷn sydd yn dangos yr hyn sydd ynddo ef.

28Y mae cerydd yr hwn nid yw dêg, ac y mae vn distaw a hwnnw yn gall.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help