3.Esdras 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.1 Sisinnes ai gyfeillion yn gwneuthur gorchymyn y brenin, ac yn cynnorthwyo yr Iddewon i adailadu y Deml. 5 Yr amser yr adailadwyd hi. 10 Hwynt hwy yn cynnal y Pasc.

1Yna Sisinnes llywydd Coelosyria a Phenice, a Sathrabuzanes ai cyfeilliō a vfydd­hausant i orchymynnion Darius frenin,

2Ac a gynnorthwyasant yn ddyfal y gwaith sanctaidd, gan weithio gŷd a’r henuriaid, a llywodraeth-wŷr y cyssegr.

3Ac felly y gwaith sanctaidd a lwyddodd, pan ydoedd Aggeus a Zacharias y prophwydi yn prophwydo.

4Felly hwynt a orphennasant bob peth drwy orchymyn Arglwydd Dduw Israel, ac o gydtundeb Cyrus a Darius, ac Artaxerxes brenhinoedd Persia.

5Fel hyn y gorphennwyd y tŷ sanctaidd ar y trydydd dydd ar hugain o’r mîs Adar yn y chwe­ched flwyddyn i Ddarius frenin y Persiaid.

6A meibion Israel, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r rhann arall a’r a oeddynt o’r gaeth-glud mewn swydd a wnaethant yn ôl yr hyn yn llyfr Moses.

7Ac wrth gyssegru Teml yr Arglwydd hwynt a offrymmasant gant o deirw, deu cant o hyrddod, a phedwar cant o ŵyn.

8[A] deuddec gafr tros bechod holl Israel, yn ôl rhifedi pennaechiaid llwythau Israel.

9Ar offeiriaid, a’r Lefiaid a safasant yn ôl eu llwythau (wedi ymwisco mewn gwiscoedd lleision) yng-waith Arglwydd Dduw Israel yn ôl llyfr Moses, a’r porthorion hefyd wrth bob porth.

10A meibiō Israel gyd a’r rhai a ddaethent allan o’r caethiwed a gynhaliasant y Pasc ar y pedwerydd ar ddec o’r mîs cyntaf, wedi sancteiddio yr offeiriaid, a’r Lefiaid.

11Ond ni sancteiddiasid holl feibion y ga­ethiwed yng-hyd, eithr y Lefiaid a gyd-sanctei­ddiasid oll.

12Felly hwynt a offrymmasant yr Pasc tros holl feibion y gaeth-glud, a thros eu brodyr yr offeiriaid, a throstynt hwy eu hunain.

13Yna holl feibion Israel y rhai a ddaethent o’r caethiwed a fwytawsant, y rhai oll a’r a ymnailltuasent oddi wrth ffieidd-dra pobl y wlad honno, ac a geisiasant yr Arglwydd.

14A hwynt a gadwasant ŵyl y bara croiw saith niwrnod gan lawenychu ger bron yr Arglwydd.

15O herwydd iddo ef droi cyngor brenin yr Assyriaid tu ag attynt hwy i nerthu eu dwylo hwynt at waith Arglwydd Dduw Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help