Ezeciel 31 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXI.Y mae yn dangos mai cyffelyb lwyddiant fuase: ac mai cyffelyb ddinistr fydde i’r Assyriaid ac i’r Aiphtiaid.

1Ac yn y trydydd o’r vnfed flwyddyn ar ddêc, ar y cyntaf o’r mis y daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd:

2Dywet fab dŷn wrth Pharao frenin yr Aipht, ac wrth ei weryn, i bwy yr ydwyt tebyg yn dy fawredd?

3Wele Assur yn gedr-wŷdden yn Libanus yn dêg ei cheingciau, ai brig yn cyscodi, ac yn vchel ei huchter, ai brigin oedd rhwng y tewfrig.

4Dyfroedd ai maethase hi, y dyfnder ai derchafase, gan fyned oi hafonydd o amgylch ei phlanfa, bwriodd hefyd ei ffrydau at holl goed y maes:

5Am hynny yr ymderchafodd ei huchder hi goruwch holl goed y maes, ar cheingeiau a amlhausant, ai changhennau a ymestynnasant o ddyfroedd lawer pan fwriodd hi

6Holl ehediaid y nefoedd a nythent yn ei cheingciau hi, a holl fwyst-filod y maes a lydnent dan ei changhennau hi, ie yr holl genhedloedd lluosog a eisteddent yn ei chyscod hi.

7Felly têg ydoedd hi yn ei mawredd yn hŷd ei brig, o herwydd ei gwraidd ydoedd wrth ddyfroedd lawer.

8Y cedr-wŷdd yng-ardd Dduw ni allent ei chuddio hi, y ffynnid-wŷdd nid oeddynt debyg iw cheingciau hi, a’r ffawydd nid oeddynt fel ei changhennau hi, prenn yng-ardd yr Arglwydd nid ydoedd debyg iddi hi yn ei thegwch.

9Gwnaethwn hi yn dêg gan liaws ei changhennau, a holl goed Eden y rhai oeddynt yng-ardd Dduw a genfigennasant wrthi hi.

10Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, o herwydd ymdderchafu o honot mewn vchter, a rhoddi o honi ei blaguryn hyd y tew-frig, ac ymmderchafu ei chalō yn eu huchder:

11Am hynny y rhoddais hi yn llaw cadarn y cenhedloedd, gan wneuthur y gwna efe iddi, am ei drygioni y gwthiais hi allan,

12Ie cedyrn ddieithraid y cenhedloedd ai torrant hi ymmaith, ac ai gadawant hi ar y mynyddoedd, ei brig hefyd a syrthiant yn yr holl ddyffrynnoedd, ai chanhennau a dorrant yn holl geu-nentydd y ddaiar: a holl bobloedd y tîr a ddescynnant oi chyscod hi, ac ai gadawant hi.

13Holl ehediaid y nefoedd a drigant ar ei bôn hi: a holl fwyst-filod y maes fyddant wrth ei changhennau hi.

14Fel nad ymdderchafo holl goed y dyfroedd yn eu huchter, ac na roddant eu brigin hŷd rhwng y tew-frig, ac na safo’r holl dyfradwy: canys rhoddaf hwynt oll i farwolaeth yn y tîr issod, yng-hanol meibion dynion, gyd a’r rhai a ddescynnant i’r pwll.

15Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, yn y dydd y descynnodd hi i vffern, gwneuthum alaru, toais y dyfnder am dani hi: canys atteliais ei hafonydd, fel yr attaliwyd dyfroedd lawer: gwneuthum i Libanus alaru am dani hi, ac holl goed y maes ddeffygio am dani hi.

16Gan sŵn ei chwymp hi y cyffroais y cenhedloedd, pan wneuthum iddi ddescyn i vffern gyd a’r rhai addescynnant i’r pwll: a holl goed Eden dewis, a goref Libanus yn ddyfradwy oll a ymgyssurant yn y tîr issod.

17Hwythau hefyd gyd â hi a ddescynnant i vffern at laddedigion cleddyf, sef ei braich hi a drigasant tann ei chyscod hi yng-hanol y cenhedloedd.

18I bwy felly o goed Eden yr oeddit tebyg mewn gogoniant, a mawredd? ti a ddescynnir gyd â choed Eden i’r tir issod: gorweddi yng-hanol y rhai Ezec.28.10.dienwaededic gyd â lladdedigion cleddyf, dymma Pharao ai holl liaws, medd yr Arglwydd Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help