1Gwybêd meirw a ddrewant, ac a ddifwynāt ennaint yr apothecari: felly ychydig ffôlineb ŵr ardderchog o herwydd ei ddoethineb ai anrhydedd.
2Calon y doeth sydd yn ei ddeheu-law, a chalon y ffôl ar ei law asswy.
3Canys y ffôl pan rodio ar y ffordd sydd ynfyd ei galon, ac yn dywedyd wrth bawb ei fod yn ffôl.
4Pan gyfodo yspryd pennadur yn dy erbyn di, nac ymâdo a’th lê canys gŵr gostyngedig a ostêga bechodau mawrion.
5Y mae drwg a welaf fi tann yr haul cyffelyb i gyfeiliorni yr hwn sydd yn dyfod oddi wrth y llywydd,
6Gosod ffyliaid mewn graddau vchel, a’r cyfoethog yn eistedd mewn llê isel.
7Mi a welais weision yn marchôgaeth ar feirch, a thywysogion yn myned fel gweision ar eu traed.
8 Psal.7.16. Dihar.26.27. Ecclus.27.26. Y sawl a gloddio bwll a syrth ynddo, a’r neb a fwrio gae i lawr sarph ai brâth ef.
9Y sawl a ysmudo gerrig a geiff ddolur oddi wrthynt: a’r nêb a holldo goed a gaiff niwed oddi wrthynt,
10Os wedi i’r fwyall bŷlu ni hogir ei mîn hi, ond ymdrechu â hi, etto doethineb a iniawne’r yn rhagorol.
11Os brâth sarph heb swyno, ni rhagor rhyngddi a pherchen tafod
12Geiriau genau’r doeth ydynt raâsol: ond gwefusau’r ffôl ai difetha ef ei hun.
13Ffolineb yw dechreuad geiriau ei enau ef, a diweddiad geiriau ei enau sydd anfad ynfydrwydd.
14Er i’r ffôl ddadwrdd llawer ô eiriau: etto ni ŵyr neb beth a ddywed, a phwy a fynega iddo ef, pa beth fydd ar ei ôl ef?
15Llafur y ffyliaid ai blina eu hunain: canys nid oes vn o honynt a ŵyr y ffordd i’r ddinas.
16Gwae di’r wlâd sydd a bachgen yn frenin iti, a’th dywysogion yn bwyta yn foreu.
17Ond gwyn dy fŷd di y deyrnas sydd a’th frenin wedi ei eni o bendefigion, a’th dywysogion yn bwyta eu bwyd yn eu hamser, er cryfder, ac nid er diotta.
18Drwy seguryd y pydra y tylâthau, ac wrth laesu’r dwylo y gollwng y tŷ ddefni.
19Arlwyant wledd i wneuthur yn llawen, a gwin a lawenycha y rhai byw, a thrwy arian y ceir hyn oll.
20Na felldithia’r brenin yn dy galon, ac yn dy ddirgel stauell na felldithia’r cyfoethog: canys ehediaid yr awyr a gyhoeddant dy lais, a’r aderyn a ddatguddia’r gair.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
