Nahum 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Gosodir ymma allan oruwchafiaeth y Caldeaid yn erbyn yr Assyriaid.

1Daeth y chwalwr i fynu o flaen dy wyneb, cadw y castell, edrych ar y ffordd, nertha dy lwyni, cadarnhâ dy nerth yn fawr.

2Canys dychwelodd yr Arglwydd ardderchawgrwydd Iacob, fel ardderchawgrwydd Israel: canys y diespydd-wŷr ai diespyddasant hwynt, ac a lygrasant eu canghennau.

3Tarian ei dewrion a liwiwyd yn gôch, ei wŷr o ryfel a wiscwyd ag yscarlat; gerbydau yn fflamm dân y dydd y byddo ei arlwy, a’r ffynnidwŷdd a wenwynwyd.

4Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heolydd, ac a ymredant yn y priffyrdd, a iw gweled fel fflammau, ac fel mellt y saethant.

5Efe a gofia ei gwychion, tramgwyddant wrth gerdded, prysurant at ei chaer hi, paratoiwyd y gorchudd.

6Pyrth y dwfr a agorwyd, a’r Deml a ymddatododd.

7Huzab a gaeth-gludwyd, a gwnaed iddi ddringo, ai morwynion yn ei hanfon, megis â llais colomennod yn curo ar eu dwyfronnau.

8A Ninife a fu er ys-dyddiau fel llynn o ddwfr: onid hwynt a ffoant, sefwch, sefwch, ac ni bydd a edrycho.

9Ysclyfaethwch arian, ysclyfaethwch aur, ac nid oes diwedd ar y da parod, gogoniant o bob dodrefn dymunol.

10Gwâg, a gorwâg, ac anrhaithiedic yw hi, a’r galon yn toddi, a diffrwythdra gliniau, a llescedd ar bob lwyni, Ioel.2.6.ai hwynebau oll a gasclant barddu.

11Pa le trigfa y llew? a’r borfa yr hon i genawon y llew? lle y rhodia y llew ieuangc a’r hên? yno y trigodd y llew, ac nid tarddudd.

12Y llew a ysclyfaethodd ddigon iw genawon, ac a dagodd ei lewesod, ac a lanwodd ag ysclyfaeth ei ffau, ai loches ag yspail.

13Wele fi attat medd Arglwydd y lluoedd, ac mi a loscaf ei cherbydau yn fŵg, a’r cleddyf a ddifa dy lewod ieuaingc: a thorraf ymaith o’r tîr dy ysclyfaeth, ac ni chlywir mwy lais dy genadau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help