1Wele, ni fyrhauwyd llaw’r Arglwydd fel na allo achub, ac ni thrymhâodd ei glust ef, fel na allo glywed.
2Eithr eich anwireddau chwi a yscarodd rhyngoch chwi a’ch Duw: a’ch pechodau a guddiasant ei wyneb oddi wrthych rhag clywed.
3Canys eich dwylo a halogwyd â gwaed, a’ch byssedd â chamwedd: eich gwefusau a draethasant ffalster, eich tafod a fefyria anwiredd.
4Nid a alwo am gyfiawnder, nac a farno mewn gwirionedd: yn gobeithio mewn gwagedd, yn dywedyd celwydd, yn beichiogi ar flinder, ac yn escor ar anwiredd.
5Wyau asp a ddodwasant, a gweoedd y pryf copyn a weuant, yr hwn a fwyttu oi hwyau a fydd marw, a’r hwn a sathrer a dyrr allan yn wiber.
6Eu gweoedd hwynt ni byddant yn wiscoedd, ac ni’s gwisir hwynt ai gweithredoedd, eu gweithredoedd weithredoedd anwiredd, a gwaith yn drawsder yn eu dwylo.
7Eu traed hwynt a redant i ddrygioni, ac a fryssiant i dywallt gwaed gwinon, eu meddyliau feddyliau anwir, destruw a dinistr ar eu ffyrdd hwynt.
8Ffordd heddwch nid adnabuant, ac nid gyfiawnder yn eu llwybrau hwynt: eu llwybrau a ŵyrasant ganddynt, pwy bynnac a rodio yno nid edwyn heddwch.
9Am hynny y ciliodd barnedigaeth oddi wrthym, ac ni’n goddiweddodd cyfiawnder: disgwiliasom am oleuni, ac wele dywyllwch, am ddiscleirdeb, yn y fagddu y rhodiasom.
10Palfalasom fel deillion a’r pared, ie fel heb lygaid y palfalasom: tramgwyddasom ar hanner dydd fel y cyfnos, ym mysc y beddau fel rhai meirw.
11Nyni oll a ruasom fel eirth, a chan riddfan y griddfanasom fel colomennod: disgwiliasom am farn, ac ni’s am iechydwriaeth, chiliodd oddi wrthym.
12Canys amlhâodd ein camweddau ni ger dy fron, a thestiolaethodd ein pechodau i’n herbyn: o herwydd ein camweddau ynom, a’n hanwireddau, ni a adwaenom.
13Camweddu a dywedyd celwydd yn erbyn yr Arglwydd, a chilio oddi ar ôl ein Duw, dywedyd trawsder, ac anufudd-dod, dychymyg a myfyrio o’r galon eiriau gau.
14Barn hefyd a droed yn ei hôl, a chyfiawnder a safodd o hirbell, canys gwirionedd a dramgwyddodd yn yr heol, ac inionded ni alle ddyfod i mewn.
15Ie, gwirionedd sydd yn pallu, a’r hwn sydd yn cilio oddi wrth ddrygioni a yspeilir, pan welodd yr Arglwydd yna drwg oedd yn ei olwg, am nad barn.
16Gwelodd hefyd nad ŵr, a synnodd arno, am nad eiriol-wr: yna ei fraich ai achubodd, ai gyfiawnder ei hun ai cynhaliodd.
17Ac efe a wiscodd gyfiawnder fel lluric, a helm iechydwriaeth am ei benn, ac a wiscodd wiscoedd dial yn ddillad: ie gwiscodd zel fel mantell.
18Yn ddiau yn ôl y gweithredoedd, ie yn hôl y tâl efe lîd ar ei wrthwyneb-wŷr, taledigaeth iw elynnion, thaledigaeth i’r ynysoedd a dâl efe.
19Ac ofnant enw yr Arglwydd o’r gorllewyn, ai ogoniant ef o godiad haul: pan ddelo y gelyn fel afon, Yspryd yr Arglwydd ai hymlid ef ymmaith.
20Ac i Sion y daw gwaredudd, ac i’r rhai â droant anwiredd yn Iacob, medd yr Arglwydd.
21Ac mi, fyng-hyfammod hwn â hwynt medd yr Arglwydd, fy yspryd yr hwn ynot, a’m geiriau y rhai a ossodais yn dy enau ni chiliant o’th enau, nac o enau dy hâd, nac o enau hâd dy hâd medd yr Arglwydd o hyn allan byth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.