Psalmau 97 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xcvij.

1Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, gorfoledded y ddaiar, llawenyched ynysoedd lawer.

2Niwl a thywyllwch oi amgylch ef: cyfiawnder, a barn sail ei orseddfaingc ef.

3Tân aiff allan oi flaen ef, ac a lŷsc ei elynnion ef o amgylch.

4Ei fellt a lewyrchâsant y byd, y ddaiar a welodd, ac a ofnodd.

5Y mynyddoedd a doddasant fel cŵyr o flaen yr Arglwydd: o flaen Arglwydd yr holl ddaiar.

6Y nefoedd a fynegâsant ei gyfiawnder ef: a’r holl bobl a welant ei ogoniant.

7Gwaradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedic, y rhai a orfoleddant mewn eulynnod: addolwch ef yr holl dduwiau.

8Sion a glywodd, ac a lawenychodd: a merched Iuda a orfoleddasant o herwydd dy farnedigaethau di ô Arglwydd.

9Canys ti wyt Arglwydd goruchaf ar yr holl ddaiar: dirfawr y derchafwyt ti goruwch yr holl dduwiau.

10Casewch ddrygioni y rhai a gerwch yr Arglwydd: yr hwn sydd yn cadw eneidiau ei sainct, ai gwared o law y rhai annuwiol.

11Hauwyd goleuni i’r cyfiawn, a llawenydd i’r rhai iniawn o galon.

12Y rhai cyfiawn, llawenychwch yn yr Arglwydd: a moliennwch goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help