1Yna Eliphaz y Themaniad a attebodd, ac a ddywedodd:
2A wna gŵr lessâd i Dduw? iddo ei hun yn hytrach y gwna y synhwyrol lessâd.
3Ai digrifwch i’r Holl-alluog pan ymgyfiawnhech? neu ai êlw pan berffeithiech di dy ffyrdd?
4Ai rhac dy ofn y cerydda efe dydi: yr aiff efe gyd â thi i farn?
5Onid ydyw dy ddrygioni di yn aml? ac heb ddiwedd ar dy anwireddau?
6Canys cymmerit ŵystl gan dy frodyr yn ddiachos: a dioscit ddillad y rhai noethion.
7Ni roddit ddwfr iw yfed i’r lluddedic: a thi a attelit fara oddi wrth y newynoc.
8Y ddaiar hefyd oedd eiddo y gŵr cadarn: yr anrhydeddus a drige ynddi.
9Danfonit ymmaith wragedd gweddwon yn wag-law: a breichiau y rhai ymddifaid a ddryllit ti.
10Am hynny maglau o’th amgylch: ac y mae ofn yn dy ddychrynu di yn ddisymmwth:
11Neu dywyllwch rhac gweled o honot: a llawer o ddyfroedd a’th orchguddiant.
12Onid Duw yn vchelder y nefoedd? gwel hefyd benn y sêr mor vchel ydynt hwy.
13A ddywedi di gan hynny, pa fodd y gŵyr Duw? a farn efe drwy dywyllwch?
14Y cwmylau loches iddo ef, ac ni wel: ac y mae efe yn rhodio gylch y nefoedd.
15A ystyriaist i lwybr y byd, yr hwn a sathrodd ofer-wŷr
16Y rhai a dorrwyd pan nid eu hamser hwynt: afon a dywalltwyd ar eu sylfaen hwy.
17Hwynt a ddywedasant wrth Dduw, cilia oddi wrthym: a pha beth a wnaeth yr Holl alluog iddynt hwy?
18Ac efe a lanwase eu tai hwy o ddaioni: am hynny pell cyngor yr annuwolion oddi wrthifi.
19Y rhai cyfiawn a welant, ac a lawenychant: a’r diniwed ai gwatwar hwynt.
20Gan na thorred ymmaith ein sylwedd ni: ac yssu o’r tân eu gweddill hwy.
21Ymarfer attolwg ag ef, a bydd heddychlon: o hyn y daw i ti ddaioni.
22Cymmer y gyfraith attolwg oi enau ef: a gosot ei eiriau ef yn dy galon.
23Os dychweli at yr Holl-alluog ti a adailedir: os symmudi anwiredd ym mhell oddi wrth dy luestai.
24Gosodi mor aml a’r pridd: ac Ophir fel callestr yr afonydd.
25A’r Holl-alluog fydd yn amddeffyn i ti: a thi a gei amldra o arian.
26Os yna’r ymhoffi yn yr Holl-alluog: dithe a dderchefi dy wyneb at Dduw.
27Ti a weddii arno ef, ac efe a’th wrendu di: tithe a dêli dy addunedau.
28Pan ragluniech di beth, efe a sicrhâ i ti: a goleuni a lewyrcha ar dy ffyrdd.
29Pan ostynger hwynt yna y dywedi, oruchafiaeth: canys efe a achub y gostyngedic olwg.
30Y diniwed a wareda yr ynys: a thrwy lendid dy ddwylaw di y gwaredir hi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
