1Ynot ti Arglwydd yr ymddyriedais, na’m gwradwydder yn dragywydd: gwaret fi yn dy gyfiawnder.
2Gogwydda dy glust attaf, bryssia i’m gwarêdu: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddeffyn i’m cadw.
3Canys fyng-hraig a’m castell ti: gan hynny er mwyn dy enw, tywys fi, ac arwain fi.
4Dwg fi allan o’r rhwyd yr hon guddiâsant i’m herbyn: canys ti fy nerth.
5 Luc.23.46. I’th law y gorchymynnaf fy yspryd: gwaredaist fi ô Arglwydd Dduw y gwirionedd.
6Caseais y rhai sy yn cadw ofer-wagedd: minne hefyd a obeithiaf yn yr Arglwydd.
7Ymlawenhaf, ac ymhyfrydaf yn dy drugaredd, yr hwn a welaist fy adfyd: adnabuost fy enaid mewn cyfyngder.
8Ac ni warchaeaist fi yn llaw y gelyn, sefydlaist fy nhraed mewn ehangder.
9Trugarhâ wrthif Arglwydd canys cyfyng arnaf: dadwinodd fy llygaid, fy enaid a’m bol gan gystudd:
10Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a’m blynyddoedd gan alar: fy nerth a syrthiodd o herwydd fy anwiredd, a’m hescyrn a bydrâsant.
11Yn warthrudd yr ydwyf gan fy holl elynnion, a yn ddirfawr gan fyng-hymydogion: ac yn ddychryn i’r rhai a’m hadwaenant, y rhai a’m gwelent allan a gilient oddi wrthif.
12Anghofiwyd fi allan o feddwl, fel marw: yr ydwyf fel llestr methedic.
13Canys clywais ogan llaweroedd, dychryn o bob parth: pan gyd-ymgynghorâsant yn fy erbyn, yr amcanâsant fy nieneidio.
14Ond mi a obeithiais ynot ti Arglwydd, dywedais, fy Nuw ydwyt.
15Yn dy law di fy amsêrau: gwaret fi oddi wrth law fyng-elynnion, ac oddi wrth fy erlid-wŷr.
16Llewyrcha dy wyneb ar dy wâs: achub fi yn dy drugaredd.
17Arglwydd na waradwydder fi, canys gelwais arnat: gwradwydder yr annuwolion, torrer hwynt i’r bedd.
18Gosteger eu gwefusau celwyddoc, y rhai a ddywedant yn galed drwy falchder, a diystyrwch yn erbyn y cyfiawn.
19Morr fawr dy ddaioni yr hwn a roddaist i gadw i’r sawl a’th ofnant, a wnaethost i’r rhai a ymddyriedant ynot ger bron meibion dynnion.
20Cuddi di hwynt yn ddirgel ger dy fron rhag balchder dynnion: cuddi hwynt mewn pabell rhag cynnen tafôdau.
21Bendigêdic fyddo’r Arglwydd, canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi mewn dinas gadarn.
22A mi a ddywedais yn fy ffrwst, fo’m bwriwyd allan o’th olwg: er hynny ti a wrandewaist lais fyng-weddiau pan lefais arnat.
23Cerwch yr Arglwydd ei holl sainct ef: yr Arglwydd a geidw ffyddlonniaid, ac a dâl yn ehelaeth i’r neb a wnant falchder.
24Ymnerthwch oll a’r sydd yn gobeithio yn yr Arglwydd: ac efe a gryfhâ eich calon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
