1A phan ddelech i’r tîr yr hwn y mae’r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it yn etifeddiaeth: ai orescyn o honot a phresswylio ynddo:
2Yna cymmer o bôb blaenffrwyth y ddaiar yr hwn a ddygi o’th dîr yr hwn y mae’r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it: a gosot mewn cawell, a dôs i’r lle’r hwn a ddewiso’r Arglwydd dy Dduw Deut.12.5.i drigo oi enw ef ynddo.
3Yna dos at yr offeiriad yr hwn a fydd yn y dyddiau hynny, a dywet wrtho: yr ydwyfi yn mynegu heddyw i’r Arglwydd dy Dduw fy nyfod i’r tîr, yr hwn a dyngodd yr Arglwydd wrth ein tadau ar roddi i ni.
4A chymmered yr offeiriad y cawell o’th law di: a gosoded ef o flaen allor yr Arglwydd dy Dduw.
5Yna atteb a dywet ger bron yr Arglwydd dy Dduw, Syriad, ar ddarfod am dano fy nhad ac efe a ddescynnodd i’r Aipht, ac a ymdeithiodd yno ag ychydig bobl: ac a aeth yno yn genhedlaeth fawr, gref, ac aml.
6A’r Aiphtiaid a’n drygodd ni, a chystuddiasant ni, a rhoddasant arnom wasanaeth caled.
7Ond galwasom ar Arglwydd Dduw ein tadau, a chlybu yr Arglwydd ein llais ni: gwelodd ein cystudd, a’n llafur, a’n gorthrymder.
8A’r Arglwydd an dug ni allan o’r Aipht mewn llaw gadarn, ac mewn braich estynnedic ac mewn ofn mawr, ac mewn arwyddion, ac mewn rhyfeddodau.
9Ac efe a’n dûg ni i’r lle hwn, ac a roes i ni y tir hwn, tir yn llifeirio o laeth, a mêl.
10Ac yn awr wele mi a ddygais flaenffrwyth y tîr yr hwn a roddaist i mi ô Arglwydd: a gad ef ger bron yr Arglwydd dy Dduw, ac addola ger bron yr Arglwydd dy Dduw.
11Ymlawenycha hefyd am bob daioni yr hwn a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, ac i’th deulu: ty di, a’r Lefiad, a’r dieithr yr hwn yn dy fysc.
12Pan ddarffo it ddegymmu holl ddegwm dy gnwd yn y drydedd flwyddyn, blwyddyn y degwm, yna y rhoddi i’r Lefiad, i’r dieithr, i’r ymddifad, ac i’r weddw: fel y bwyttânt yn dy byrth di, ac y digoner hwynt.
13A dywet ger bron yr Arglwydd dy Dduw, dygais cyssegredic o’r tŷ, ac ai rhoddais ef i’r Lefiad, ac i’r dieithr, i’r ymddifad, ac i’r weddw: yn ol pob gorchymyn yr hwn a Deut.14.27.orchymynnaist im, ni throsseddais o’th orchymynnion, ac nis anghofiais.
14Ni fwytteais o honaw yn fyng-alar, ac ni ddygym ymmaith o honaw mewn halogedigaeth, ac ni roddais o honaw tros y marw: gwrandewais ar lais yr Arglwydd fy Nuw, gwneuthum yn ôl yr hyn oll a orchymynnaist i mi.
15Edrych o drigle dy sancteiddrwydd o’r nefoedd, a bendithia dy bobl Israel, a’r ddaiar yr hon a roddaist i ni, megis y tyngaist wrth ein tadau, tîr yn llifeirio o laeth a mêl.
16Y dydd hwn y mae’r Arglwydd dy Dduw yn gorchymyn it wneuthur y deddfau hyn, a’r barnedigaethau: cadw dithe a gwna hwynt a’th holl galon, ac a’th holl enaid.
17 Deut.7.6. Deut.14.2. Mawrygaist yr Arglwydd heddyw i fod yn Dduw i ti, ac i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei ddeddfau, ai orchymynnion, ai farnedigaethau, ac i wrando ar ei lais ef.
18Mawrygodd yr Arglwydd dithe heddyw i fod yn bobl vnic iddo ef megis y llefarodd wrthit, ac i gadw ei holl orchymynnion.
19Ac i’th roddi Deut.4.7.goruwch yr holl genhedloedd y rhai a wnaeth efe: mewn elod, ac mewn enw, ac mewn gogoniant: ar i fod o honot deut.7.6.yn bobl sanctaidd i’r Arglwydd dy Dduw, megis y llefarodd efe.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.