1Y gair yr hwn a ddaeth at Ieremi oddi wrth yr Arglwydd, pan anfonodd y brenin Sedecia atto ef Phashur fab Malciah, a Sephania fab Maasiah yr offeiriad gan ddywedyd:
2Ymofyn attolwg a’r Arglwydd drosom ni (canys Nabuchodonosor brenin Babilon sydd yn rhyfela i’n herbyn ni) ond odid gwna yr Arglwydd â ni yn ôl ei holl ryfeddodau, ac efe a wnaiff fyned i fynu oddi wrthym ni.
3Yna y dywedodd Ieremi wrthynt: fel hyn y dywedwch wrth Sedecia.
4Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, wele fi yn troi yr arfau rhyfel y rhai sy yn eich dwylo, y rhai yr ydych chwi yn rhyfela â hwynt yn erbyn brenin Babilon, a’r Caldeaid y rhai ydynt yn gwarche arnoch or tu allan i’r gaer: ac mi ai casclaf hwynt i ganol y ddinas hon.
5Ac mi a ryfelaf i’ch erbyn â llaw estynnedic, ac a braich gref mewn sorriant, a llid, a digofaint mawr.
6Tarawaf hefyd drigiolion y ddinas hon yn ddŷn, ac yn anifail: fel y byddant feirw o farwolaeth fawr.
7Ac wedi hynny medd yr Arglwydd y rhoddaf Sedecia frenin Iuda, ai weision, a’r weryn, a’r rhai a weddiller yn y ddinas hon gan haint gan y cleddyf, a chan y newyn, i law Nabuchodonosor brenin Babilon, ac i law eu gelynnion, ac i law y sawl sydd yn ceisio eu henioes: ac efe ai teru hwynt â min y cleddyf: ni thosturia wrthynt, ac nid erbyd, ac ni chymmer drugaredd
8Ac wrth y bobl hyn y dywedi, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd: wele fi yn rhoddi ger eich bron ffordd enioes, a ffordd angeu.
9 Ier.38.2. Yr hwn a drigo yn y ddinas hon a leddir gan y cleddyf, a chan newyn, a chan haint a’r neb a elo allan, ac a gilio at y Caldeaid y rhai ydynt yn gwarche arnoch a fydd byw, ai enioes fydd Ier.37.2. Ier.39.18. Ier.45.5.yn sclyfaeth iddo.
10Canys mi a osodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon er drwg, ac nid er lles yn llaw brenin Babilon y rhoddir hi, ac efe ai llysc hi â thân.
11A wrth dŷ brenin Iuda, gwrandewch air yr Arglwydd.
12O tŷ Dafydd fel hyn y dywed yr Arglwydd: bernwch iniondeb yn foreu, ac achubwch y Ier.22.3.truan o law y traws: rhac i’m llid dorri allan fel tân a llosci fel nad ellir neb ei ddiffodd o herwydd drygioni eich gweithredoedd.
13Wele fi i’th erbyn yr hon wyt yn presswylio y dyffryn, y graig, maes medd yr Arglwydd: ac yn dywedyd, pwy a yrr ofn arnom? neu pwy a ddaw i’n hanneddau?
14Ond mi a ymwelaf â chwi yn ôl ffrwyth eich gweithredoedd medd yr Arglwydd: ac mi a gynneuaf dân yn eich coed-wig, yr hwn a yssa bob dim oi amgylch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
