Psalmau 98 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xcviij.Psalm.

1 Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd, canys efe a wnaeth rhyfedd: ai ddeheulaw, ac ai fraich sanctaidd y parodd iddo ei hun iechydwriaeth.

2Yspyssodd yr Arglwydd ei iechydwriaeth a dat-cuddiodd ei gyfiawnder yng-olwg y cenhedloedd.

3Cofiodd ei drugaredd, ai wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaiar a welsant iechydwriaeth ein Duw ni.

4Cênwch yn llafar i’r Arglwydd bob daiar: llefwch, ac ymlawenhewch, a chênwch.

5Cênwch i’r Arglwydd gyd a’r delyn: gyd a’r delyn â llef canmoliaeth.

6Cênwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin ar yr vdcyrn, a sain trwmpet.

7Rhûed y môr ac sydd ynddo, y bŷd a’r rhai a drigant oi fewn.

8Cured y llifeiriaint eu Dwylo: a chydganed y mynyddoedd

9O flaen yr Arglwydd, canys a ddaeth i farnu y ddaiar: efe a farna’r bŷd mewn cyfiawnder, ar bobloedd mewn iniondeb.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help