1Mab saith mlwydd Ioas pan ddechreuodd efe deyrnasu, 2.Bren.12.1.a deugain mhlynedd y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Zibia o Beer-seba.
2Ac Ioas a wnaeth yr hyn oedd inion yngolwg yr Arglwydd, holl ddyddiau Iehoiadah’r offeiriad.
3Ac Iehoiadah a gymmerth iddo ddwy wragedd: ac efe a genhedlodd feibion, a merched.
4Ac wedi hyn y meddyliodd Ioas am adnewyddu tŷ’r Arglwydd.
5Ac efe a gynhullodd yr offeiriaid, a’r Lefiaid, ac a ddywedodd wrthynt hwy, ewch i ddinasoedd Iuda, a chesclwch gan holl Israel arian i gyweirio tŷ ein Duw ni o flwyddyn i flwyddyn: bryssiwch chwithau at y peth: ond ni fryssiodd y Lefiaid.
6Am hynny y brenin a alwodd am Iehoiadah yr pennaf, ac a ddywedodd wrtho ef, pa ham na chesiaist gan y Lefiaid ddwyn o Iuda, ac o Ierusalem drêth Moses gwâs yr Arglwydd, ac o gynnull eidfa Israel, i Exod.30.16.babell y destiolaeth?
7Canys Athaliah ddrygionus ai meibion a rwygasent dŷ Dduw: a holl gyssegredic bethau tŷ’r Arglwydd a ddarparasent hwy i Baalim.
8Pan archodd y brenin, yna hwynt a wnaethant vn gîst: 2.Bren.12.9.ac ai gosodasant hi ym mhorth tŷ’r Arglwydd oddi allan.
9A rhoddasant gyhoedd yn Iuda, ac yn Ierusalem ar ddwyn i’r Arglwydd drêth Moses gwâs Duw Exod.30.13.[’r hon a orchymynnasid i blant] Israel yn yr anialwch.
10A’r holl dywysogion, a’r holl bobl a lawenychasant: ac a ddugasant, ac a fwriasant i’r gist nes gorphen
11Pan ydoedd yn fadws, y ducpwyd y gîst at swyddog y brenin drwy law y Lefiaid, a phan welsant fod llawer o arian, yna y daeth scrifennudd y brenin, a swyddog yr Arch-offeiriad, ac a dywalltasant y gîst, wedi hynny hwy ai dugasant, ac ai hadferasant hi iw lle ei hun: felly y gwnaethant o ddydd i ddydd, a chasclasant arian lawer.
12A’r brenin, ac Iehoiadah ai rhoddodd i’r rhai oedd yn gweithio gwasanaeth tŷ’r Arglwydd, a chyflogasant seiri maen, a seiri pren i gyweirio tŷ’r Arglwydd: a gofiaid haiarn, a phrês i gadarnhau tŷ’r Arglwydd.
13Felly y gweith-wŷr a weithiasant, a’r gwaith a gyweiriwyd drwy eu dwylo hwynt: a chodasant dy Dduw yn ei drefn ei hun, ac ai cadarnhausant ef.
14A phan orphennasant hwy hwy a ddugasant y gweddill o’r arian ger bron y brenin, ac Iehoiadah, a hwy a wnaethant o honynt lestri i dŷ’r Arglwydd, llestri y wenidogaeth, a’r mortêrau, a’r phiolau, a’r llestri aur, ac arian: ac yr oeddynt hwy yn offrymmu poeth offrymmau yn nhŷ’r Arglwydd yn oestadol holl ddyddiau Iehoiadah.
15Ac Iehoiadah a heneiddiodd, ac oedd gyflawn o ddyddiau, ac a fu farw: mab can mlwydd a dêc ar hugain pan fu efe farw.
16A hwynt ai claddasant ef yn ninas Ddafydd gyd a’r brenhinoedd: canys efe a wnelse ddaioni yn Israel tu ag at Dduw ai dŷ ef.
17Ac wedi marw Iehoiadah tywysogion Iuda a ddaethant, ac a ymgrymmasant i’r brenin: yna y brenin a wrandawodd arnynt hwy.
18A hwy a wrthodasant dŷ Arglwydd Dduw eu tadau, ac a wasanaethasant y llwynau, a’r delwau: a bu ddigofaint yn erbyn Iuda, ac Ierusalem, o herwydd eu camwedd hyn.
19A a anfonodd attynt hwy brophwydi iw troi hwynt at yr Arglwydd: y rhai a destiolaethasant yn eu herbyn hwynt, ond ni wrandawsant hwy ar y rhai hynny.
20Ac yspryd Duw a ddaeth ar Zachariah fab Iehoiadah yr offeiriad, ac efe a safodd oddi ar y bobl: ac a ddywedodd wrthynt hwy, fel hyn y dywedodd Duw, pa ham yr ydych chwi yn trosseddu gorchymynnion yr Arglwydd? diau na ffynnwch chwi, canys gwrthodasoch yr Arglwydd, am hynny yntef a’ch gwrthyd chwithau.
21Yna y bradfwriadasant hwy yn ei erbyn ef, ac y llabyddiasant ef a meini wrth orchymyn y brenin yng-hyntedd tŷ’r Arglwydd.
22Ac ni chofiodd Ioas y brenin y drugaredd yr hon a wnaethe Iehoiadah ei dâd ef ag ef, ond efe a laddodd ei fab ef: a phan oedd efe yn marw, efe a ddywedodd, edryched yr Arglwydd, a gofynned
23Ac yng-hyfnod y flwyddyn y daeth llu y Syriaid i fynu yn ei erbyn ef, a hwynt a ddaethant yn erbyn Iuda, ac Ierusalem, ac a ddifethasant holl dywysogion y bobl o blith y bobl: ac a anfonasant eu holl anrhaith hwynt at frenin Damascus.
24Er i lu y Syriaid ddyfod ag ychydig ddynion, etto yr Arglwydd a roddodd yn ei llaw hwynt lu mawr iawn, canys gwrthodasent Arglwydd Dduw eu tadau: felly y rhoddasant hwy farn ar Ioas.
25A phan aethant hwy oddi wrtho ef (canys hwynt ai gadawsant ef mewn clefydau mawrion) ei weision ef a ymgasclasant iw erbyn ef o herwydd gwaed meibion Iehoiadah yr offeiriad, ac ai lladdasant ef ar ei wely, ac efe a fu farw: ac hwy ai claddasant ef yn ninas Ddafydd, ond ni chladdasant ef ym meddau y brenhinoedd.
26Dymma y rhai a fradfwriadasant yn ei erbyn ef: Zabad mab Simath yr Ammoniad, ac Iehosabad mab Simrith y Moabiad.
27Am ei feibion ef, a maint y drêth drwyddo ef, a seiliad tŷ Dduw, wele hwynt yn scrifennedic mewn hystori llyfr y brenhinoedd: ac Amasia ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.