1.Samuel 31 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXI.Dihenydd Saul, ai feibion.

1A’r 1.Cron.10.1.Philistiaid oeddynt yn ymladd yn erbyn Israel, a gwŷr Israel a ffoasant rhac y Philistiaid, ac a syrthiasant yn archolledic ym mynydd Gilboa.

2A’r Philistiaid a erlidiasant Saul, ai feibion: a’r Philistiaid a laddasant Ionathan, Abinadab hefyd, a Malcissua meibion Saul.

3A thrwmhaodd y rhyfel yn erbyn Saul, a’r perchen bwâu ai cawsant ef, ac efe a ofnodd yn ddirfawr rhac y saethyddion.

4Yna y dywedodd Saul wrth glydudd ei arfau, tynn dy gleddyf a thrywana fi ag ef, rhac i’r rhai dienwaededic ymma ddyfod a’m trywanu i, a’m gwradwyddo, ond ni fynne ei eswyn ef, canys efe a ddychrynnase yn ddirfawr: am hynny Saul a gymmerodd y cleddyf, ac a syrthiodd arno ef.

5Pan welodd ei eswyn ef farw o Saul: yna yntef hefyd a syrthiodd ar ei gleddyf, ac a fu farw gyd ag ef.

6Felly y bu farw Saul, ai dri mab ef, ai eswyn, ai holl wŷr ef y dydd hwnnw ar vn waith.

7Pan welodd gwŷr Israel y rhai o’r tu hwnt i’r dyffryn, a’r rhai o’r tu hwnt i Iorddonen ffoi o wŷr Israel, a marw Saul ai feibion: yna y gadawsant y dinasoedd, ac y ffoasant, a’r Philistiaid a ddaethant, ac a bresswyliasant ynddynt hwy.

8A’r borau pan ddaeth y Philistiaid i yspeilio y lladdedigion: yna y cawsant Saul ai dri mab, yn gorwedd ym mynydd Gilboa.

9A hwy a dorrasant ei benn ef, ac a ddioscasant ei arfau ef, ac a anfonasant i wlâd y Philistiaid o bob parth, i fynegu yn nhŷ eu delwau hwynt, ac ym mysc y bobl.

10A gosodasant ei arfau ef yn nhŷ Astaroth ai gorph ef a hoeliasant hwy ar fûr Bethsan.

11Pan glybu trigolion Iabes Gilead hynny, sef yr hyn a wnaethe y Philistiaid i Saul,

12Yna’r holl wŷr nerthol a gyfodasant, ac a rodiasant yr holl nôs, ac a ddugasant ymmaith gorph Saul, a chyrph ei feibion ef oddi ar fûr Bethsan: ac a ddaethant i Iabes, ac ai lloscasant hwynt yno.

13A hwy a gymmerasant eu hescyrn hwynt, ac ai claddasant tān brenn yn Iabes: ac a ymprydiasant saith niwrnod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help