Mathew 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.1 Achau Crist yr hwn yw’r Messiah a addawsid i’r tadau. 18 Genedigaeth Iesu Grist.

1Llyfr Luc.3.23.cenhedliad Iesu Grist, fâb Dafydd, fâb Abraham.

2 Gene.21.2. Abraham a genhedlodd Isaac; Gene.25.24.Isaac a genhedlodd Iacob; Gene.29.35.Iacob a genhedlodd Iudas a’i frodyr.

3Ac Gene.38.27.Iwdas a genhedlodd Phares a Zara o Thamar, a 1.Cron.2.5. Ruth.4.18.Phares a genhedlodd Esrom, ac Esrom a genhedlodd Aram.

4Ac Aram, a genhedlodd Aminadab, ac Aminadab a genhedlodd Naasson; ac Naasson a genhedlodd Salmon:

5A Ruth.4.21.Salmon a genhedlodd Booz o Rachab, a Booz a genhedlodd Obed o Ruth, ac Obed a genhedlodd Iesse.

6Ac 1.Sam.16.1. & 17.12.Iesse a genhedlodd Dafydd frenin, a 2.Sam.12.24.Dafydd frenin a genhedlodd Salomon o’r hon (a fuasai wraig) Urias.

7A 1.Bren.11.43. 1.Cron.3.10,11.Salomon a genhedlodd Roboam, a Roboam a genhedlodd Abia, ac Abia a genhedlodd Asa.

8Ac Asa a genhedlodd Iosaphat, a Iosaphat a genhedlodd Ioram, a Ioram a genhedlodd Ozias.

9Ac Ozias a genhedlodd Ioatham, a Ioatham a genhedlodd Achaz, ac Achaz a genhedlodd Ezechias.

10Ac 2.Bren.20.21 & 21.18. 1.Cron.3.13.Ezechias a genhedlodd Manasses, a Manasses a genhedlodd Amon, ac Amon a genhedlodd Iosias.

11A 2.Bren.23.34. & 24.1.Iosias a genhedlodd Iechonias a’i frodyr, yng-hylch amser y caeth-gludiad i Babilon.

12Ac yn ôl y caeth-gludiad i Babilon, 1.Cron.3.16.Iechonias a genhedlodd Salathiel, a 1.Cron.3.17. 1.Esdr.3.2.|1ES 3:2 & 5.2.Salathiel a genhedlodd Zorobabel.

13A Zorobabel a genhedlodd Abiud, ac Abiud a genhedlodd Eliacim, ac Eliacim a genhedlodd Azor.

14Ac Azor a genhedlodd Sadoc, a Sadoc a genhedlodd Achim, ac Achim a genhedlodd Eliud;

15Ac Eliud a genhedlodd Eleazar, ac Eleazar a genhedlodd Matthan, a Matthan a genhedlodd Iacob.

16Ac Iacob a genhedlodd Ioseff gŵr Mair, o’r hō y ganed Iesu yr hwn a elwir Crist.

17Yr holl oesoedd gan hynny o Abraham i Ddafydd bedair cenhedlaeth ar ddêc: ac o Ddafydd hyd y caethgludiad i Babilon pedair cenhedlaeth ar ddêc: ac o’r caeth-gludiad i Babilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddêc.

18A genedigaeth Iesu Christ oedd fel hyn: wedi dyweddio Mair ei fam ef a Ioseph, cyn eu dyfod hwy yng-hyd, hi a gafwyd yn feichiog trwy yr Ysbryd glân.

19Ac Ioseff ei gŵr hi am ei fod efe yn gyfiawn ac heb ewyllysio ei Deut.24.1.hortio hi, a amcanodd ei rhoi hi ymmaith yn ddirgel.

20A thra’r oedd efe yn bwriadu hyn, wele Angel yr Arglwydd yn ymddangosodd iddo ef trwy hun gan ddywedyd, Ioseph, mab Dafydd nac ofna gymmeryd Mair dy wraig, o blegid yr hyn a genhedlwyd ynddi sydd o’r Ysbryd Glân.

21A hi a esgor ar fab, â thi a elwi Luc.1.31.ei enw ef IESU: o blegit efe a achub ei bobl Act.4.12.rhag eu pechodau.

22A hyn oll a wnaethpwyd i gyflawni’r hyn a ddywedodd gan yr Arglwydd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd:

23 Esa.7.14. Wele, Morwyn a fydd feichiog, ac a ddwg fab, a hwy a alwant ei enw ef Emmanuel, yr hwn os cyfieithir a arwyddocâ, Duw gyd â ni.

24Ac Ioseph, pan ddeffroes o gwsg a wnaeth megis y gorchymynnase Angel yr Arglwydd iddo ef, ac a gymmerodd ei wraig.

25Ac nid adnabu efe hi hyd oni escorodd hi ar ei mab cyntaf-anedic, a galwodd ei henw ef IESU.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help