1Gochelwch rhag gwneuthur eich elusen yng-ŵydd dynion er mwyn cael eich gweled ganddynt, os amgen, ni chewch dâl gan eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd.
2 Hefyd pan ymprydioch, na fyddwch wyneb sarric fel rhagrith-wŷr: canys anffurfio eu hwynebau y byddant, er ymddangos i ddynion yn ymprydio, yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr.
17Eithr pan ymprydiech di, eneinia dy benn, a golch dy wyneb,
18Rhag ymddangos i ddynion fod yn ymprydio, onid i’th Dâd ’r hwn sydd yn y dirgel; a’th Dâd yr hwn a wêl yn ddirgel a dâl i ti yn yr ālwg.
19Na chesclwch dryssor i chwi ar y ddaiar, lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd, ac yn lladratta.
20 Luc.16.13. Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd, canys naill ai efe a gasâ’r naill, ac a gâr y llall, ai efe a ymlyn wrth y naill, ac a esceulusa’r llall: ni ellwch wasanaethu Duw a golud-bydol.
25 Luc.12.22. phil.4.6. 1.timoth.6.8. 1.pet.5.7. psal.55.22.Am hynny meddaf i chwi, na ofelwch am eich bywyd pa beth a fwyttaoch, neu pa beth a yfoch: nac am eich cyrph, pa beth a wiscoch: onid yw’r bywyd yn fwy nâ’r bwyd? a’r corph yn fwy nâ’r dillad?
26Edrychwch ar adar y nefoedd, o blegit nid ydynt nac yn medi, nac yn cywain i’r yscuboriau, ac y mae eich Tâd nefol yn eu porthi hwynt, onid ydych chwi yn rhagori arnynt hwy?
27A phwy o honoch gan ofalu a ddichon chwanegu vn cufydd at ei faint?
28A pha ham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad? dyscwch pa wedd y mae lili’r maes yn tyfu: nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu.
29Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na bu Solomon yn ei holl ogoniant mor drwsiadus ag vn o’r rhai hyn.
30Am hynny os dillada Duw lysieun y maes, yr hwn sydd heddyw, ac y foru a fwrir i’r ffwrn, oni chwi yn fwy o lawer, ô rai o ychydig ffydd?
31Am hynny na ofelwch gan ddywedyd, beth a fwytawn? neu beth a yfwn? neu â pha beth yr ymddilladwn?
32Canys am y pethau hyn holl yr ymofyn y cenhedloedd, o blegit eich Tâd nefol a ŵyr fod arnoch eisieu yr holl bethau hyn.
33Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw ai gyfiawnder, a’r holl bethau hyn a roddir i chwi yn chawneg.
34Na ofelwch gan hynny dros drannoeth, canys trannoeth a ofala trosto ei hunan, digon i’r diwrnod ei ddryganiaeth ei hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
