1Yna Dafydd a aeth ymmaith oddi yno, ac a ddiangodd i ogof Adulam: pan glybu ei frodyr ef, a holl dŷ ei dâd ef yna hwy a ddaethant i wared atto ef yno.
2Ymgynnullodd hefyd atto ef bob gŵr helbulus, a phob gŵr a’r a oedd mewn dylêd, a phob gŵr cystuddiedic o feddwl, ac efe a fu yn dywysog arnynt hwy: ac yr oedd gyd ag ef yng-hylch pedwar cant o wŷr.
3A Dafydd a aeth ymmaith oddiyno i Mispa Moab: ac a ddywedodd wrth frenin Moab, deled attolwg fy nhâd, a’m mam gyd a chwi, hyd oni wypwyf beth a wnêl Duw i mi.
4Ac efe ai dûg hwynt ger bron brenin Moab: ac arhosasant gyd ag ef yr holl ddyddiau tra fu Dafydd yn yr amddeffynfa.
5Yna Gad y prophwyd a ddywedodd wrth Ddafydd, nac aros yn yr amddeffynfa, dôs ymmaith a cherdda rhagot i wlâd Iuda: felly Dafydd a ymadawodd, ac a ddaeth i goed Hareth.
6Pan glybu Saul fod Dafydd yn adnabyddus a’r gwŷr y rhai gyd ag ef: yna Saul oedd yn aros yn Gibea tann y pren yn Ramah, ai waiw-ffon yn ei law, ai holl weision yn sefyll oi amgylch.
7A Saul a ddywedodd wrth ei weision y rhai oeddynt yn sefyll oi amgylch, clywch attolwg feibion Iemini: a ddyru mab Isai i chwi oll feusydd, a gwin-llannoedd? esyd efe chwi oll yn dywysogion miloedd, ac yn dywysogion cantoedd?
8Canys chwi oll a gyd-fwriadasoch i’m herbyn i, ac nid oedd a fynege i mi, pan wnaeth fy mab gyngrair a mab Isai, ac nid oes o honoch yn dolurio o’m plegit, nac yn datcuddio i’m clust ddarfod i’m mab annog fyngwâs yn gynllwyn-wr i’m herbyn, megis y dydd hwn.
9Yna yr attebodd Doeg yr Edomiad, (yr hwn oedd wedi ei osod ar weision Saul) ac a ddywedodd: gwelais fab Isai yn dyfod i Nob at Ahimelec fab Ahitob.
10Ac efe a ymgynghorodd trosto ef a’r Arglwydd, ac a roddes fwyd iddo ef: cleddyf Goliath y Philistiad a roddes efe hefyd iddo ef.
11Yna’r arfonodd y brenin i alw am Ahimelec fab Ahitob yr offeiriad, a holl dy ei dâd ef yr offeiriaid y rhai yn Nob: a hwynt oll a ddaethant at y brenin.
12A Saul a ddywedodd, gwrando yn awr mab Ahitob: dywedodd yntef, wele fi fy arglwydd.
13Yna y dywedodd Saul wrtho ef, pa ham y cydfwriadasoch i’m herbyn i, ti a mab Isai? gan roddi iddo fara, a chleddyf, ac ymgynghori a Duw trosto ef, fel y cyfode yn fy erbyn yn gynllwyn-wr megis heddiw.
14Ac Ahimelec a attebodd y brenin, ac a ddywedodd: pwy ym mysc dy holl weision di môr ffyddlon a Dafydd? ac yn ddaw i’r brenin, ac yn myned mewn vfydd-dod it, ac yn anrhydeddus yn dy dŷ di?
15Ai’r dydd y dechreuais i ymgynghori a Duw trosto ef? na atto Duw i mi na osoded y brenin ddim yn erbyn ei wâs, yn erbyn neb o dŷ fy nhâd, canys ni ŵybu dy wâs di o’r peth hyn oll, ychydic na llawer.
16Yna y dywedodd y brenin, gan farw y byddi farw Ahimelec: tydi a holl dŷ dy dâd.
17A’r brenin a ddywedodd wrth y rhedegwŷr y rhai oeddynt yn sefyll oi amgylch ef, troiwch, a lleddwch offeiriaid yr Arglwydd, canys eu llaw hwynt hefyd gyd a Dafydd, ac o herwydd iddynt ŵybod ffoi o honaw ef, ac na fynegasant i mi: ond ni fynne gweision y brenin estyn eu llaw i ruthro yn erbyn offeiriaid yr Arglwydd.
18Yna y dywedodd y brenin wrth Ddoeg, tro di, a rhuthra yn erbyn yr offeiriaid: yna Doeg yr Edomiad a drôdd, ac efe a ruthrodd yn erbyn yr offeiriaid, ac a laddodd y diwrnod hwnnw bump a phedwar vgain o wŷr yn dwyn Ephod liain.
19Efe hefyd a darawodd Nob dinas yr offeiriaid a mîn y cleddyf, yn ŵr, ac yn wraig, yn ddyn-bâch ac yn blentyn sugno: yn ŷch hefyd, ac yn assyn, ac yn oen, a min y cleddyf.
20Ond vn mab i Ahimelec fab Ahitob a ddiangodd, (ai enw ef Abiathar: ) ac a ffôdd ar ôl Dafydd.
21Ac Abiathar a fynegodd i Ddafydd ddarfod i Saul ladd offeiriaid yr Arglwydd.
22Yna y dywedodd Dafydd wrth Abiathar, gwybûm y dydd hwnnw pan Doeg yr Edomiad yno, gan fynegu y mynege efe i Saul: myfi fum yn achos i holl dylwyth tŷ dy dâd ti.
23Aros gyd a mi, nac ofna, canys yr hwn a geisio fy enaid i, a gais dy enaid tithe: o herwydd cadwraeth di gyd a mi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.