1Gwae ddinas y gwaed, celwydd ei gyd, a llawn o yspail heb ymado â thrais.
2[Bydd] sŵn y ffrywyll, a sŵn cynnwrf olwyn, a’r march yn prangcio, a’r cerbyd yn neidio.
3Y marchog yn codi ei gleddyf fflamllyd, ai ddisclaer waiw-ffon, llawer yn glwyfus, a lluosogrwydd o gelanedd heb ddiwedd ar y cyrph, a thrippiant wrth eu cyrph hwynt.
4O herwydd aml butteindra y buttein dêg, meistres swynion yr hon a werth genhedlaethau trwy ei phutteindra, a theuluoedd trwy ei swynion.
5Wele fi i’th erbyn medd Arglwydd y lluoedd, a datcuddiaf dy odrau hyd dy wyneb, a gwnaf i genhedloedd weled dy frynti, a theyrnasoedd dy warth.
6A thaflaf ffiaidd bethau arnat, gwradwyddaf di hefyd, a gosodaf di fel tomm.
7A bydd i bawb a’th welo ffoi oddi wrthit, a dywedyd, anrheithiwyd Ninife, pwy a dosturia wrthi? o ba le y ceisiaf ddiddanwr it?
8Ai gwell ydwyt nâ No dylwythoc, yr hon a drîg rhwng yr afonydd, ac a amgylchir â dyfroedd, i’r hon y mae y môr yn glawdd, ai magwyr o’r môr.
9Ethiopia oedd gadernid, a’r Aipht ac heb ddiwedd: Put a Lubim oeddynt yn gynhorthwy i ti.
10Er hynny hi aeth yn gaeth-glud i garchar, ai phlant a ddrylliwyd wrth gelfi ym mhen pob heol; ac am ei phendefigion y bwriasant goel-brennau, ai holl bennaethiaid a rwymwyd mewn gefynnau.
11Tithe hefyd a feddwi, byddi guddiedic, ceisi hefyd gadernid rhag y gelyn.
12Dy holl gestyll a fyddant fel ffigus-wŷd, yng-hyd ai blaen-ffrwyth, os syflir hwynt syrthiant yn safn y bwyttawr.
13Wele dy bobl yn wragedd yn dy blith, pyrth dy dîr a agorir i’th elynnion, tân a ysodd dy farrau.
14Tynn it ddwfr gwarche, cadarnhâ dy gestyll, dôs i’r domm, sathr y clai, cryfhâ dy odyn briddfaen.
15Yno y tân a’th ddifa, y cleddyf a’th dyrr i lawr, ysa efe dydi fel pryf y rhŵd, it ymchwanegu fel pryf y rhŵd, ymchwanegu fel y celiog rhedyn.
16Amlheuaist dy farchnad-wŷr rhagor sêr y nefoedd: difwynodd pryf y rhŵd, ac ehedodd.
17Dy dywysogion fel y celiogod rhedyn, a’th lywodraeth-wŷr fel Locust y locustisid y rhai a heidiant yn y caeau ar amser oerfeloc: a phan godo yr haul ehedant ymmaith, ac ni adwaenir eu man lle y buant.
18Dy fugeiliaid brenin Assur a heppiant, a’th bendefigion a orweddant, gwascerir dy bobl ar y mynyddoedd, ac ni cascludd.
19Ni thynnir dy wely yng-hyd, clwyfus yw dy archoll, pawb a glywo sôn am danat a gurant eu dwylaw arnat: o herwydd ar bwy nid aeth dy ddrygioni bob amser?
Terfyn llyfr Nahum.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
