1Ac yn y dydd hwnnw saith o wragedd a ymaflant mewn vn gŵr gan ddywedyd: ein bara ein hun a fwyttawn, a’n dillad ein hun a wiscwn, yn vnic galwer dy enw di arnom ni: cymmer ymmaith ein gwarth ni.
2Y pryd hwnny y bydd blaguryn yr Arglwydd yn brydferthwch, ac yn ogoniant: a ffrwyth y ddaiar yn rhagoriaeth, ac yn degwch i’r rhai a ddiangasant o Israel.
3Yna y bydd yr hwn a adewir yn Sîon, ac a weddillir yn Ierusalem, y dywedir wrtho, ô sanct: pawb a’r a scrifennwyd Exod.32.32.ym mhlith y rhai byw yn Ierusalem.
4Pan olcho’r Arglwydd frynti merched Sîon, a charthu gwaed Ierusalem oi chanol mewn yspryd barn, ac mewn yspryd gwres,
5Yna’r Arglwydd a grea ar bôb trigfa o fynydd Sîon, ac ar ei gymanfaoedd Exod.13.21.gwmwl y dydd, mŵg hefyd, a llewyrch tân fflamllyd y nôs: canys ar bôb gogoniant amddeffyn.
6A phabell fydd yn gyscod y dydd rhac gwrês, yn ddiogelwch hefyd, ac yn ymguddfa rhac tymestl, a rhac glaw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
