1Wedi teyrnasu o Saul vn flwyddyn (canys dwy flynedd y teyrnasodd efe ar Israel. )
2Yna Saul a ddewisodd iddo dair mil o Israel, a dwy fil oeddynt gyd a Saul ym Micmas, ac ym mynydd Bethel: a mîl oeddynt gyd ag Ionathan yn Gibea Beniamin: a gweddill y bobl a anfonodd efe, bawb iw babell ei hun.
3Ac Ionathan a darawodd sefyllfa y Philistiaid yr hon a Saul a ganodd mewn vdcorn drwy’r holl dir gan ddywedyd: clywed yr Hebræaid.
4A holl Israel a glywsant ddywedyd, daro o Saul sefyllfa y Philistiaid, am hynny Israel a ffieiddiwyd ym mysc y Philistiaid: a’r bobl a ymgasclodd ar ôl Saul i Gilgal.
5A’r Philistiaid a ymgynnullasant i ymladd ag Israel, deng-mil ar hugain o gerbydau, a chŵe mil o wŷr meirch a phobl cyn amled a’r tyfod yr hwn ar fîn y môr: ac hwy a ddaethant i fynu, ac a werssyllasant ym Micmas o du’r dwyrain i Bethafen.
6Pan welodd gwŷr Israel fod yn gyfyng arnynt (canys gwascasyd ar y bobl: ) yn a y bobl a ymguddiasant mewn ogfeudd, ac mewn amddeffynfeudd, ac mewn creigiau, ac mewn tŷrau, ac mewn pydewau.
7A Hebræaid a aethant tros yr Iorddonen i dîr Gad, a Gilead: a Saul etto yn Gilgal, a’r holl bobl yn ddychrynnedic a aethant ar ei ôl ef.
8Ac efe a ddisgwiliodd saith niwrnod hyd yr amser terfynedic yr hwn Samuel, ond ni ddaeth Samuel i Gilgal: am hynny y gwascarodd y bobl oddi wrtho ef.
9Yna y dywedodd Saul, dygwch attafi boeth offrwm, ac offrwm hedd, ac efe a offrymmodd boeth offrwm.
10A phan orphennodd efe offrymmu y poeth offrwm, yna wele Samuel a ddaeth: a Saul a aeth allan iw gyfarfod ef iw gyfarch ef.
11Yna y dywedodd Samuel, beth a wnaethost di, a Saul a ddywedodd, o herwydd gweled o honof i’r bobl wascaru oddi wrthif, ac na ddaethost dithe erbyn y dyddiau terfynedic, ac i’r Philistiaid ymgasclu i Micmas:
12Am hynny y dywedais, y Philistiaid yn awr a ddeuant i wared attafi i Gilgal, ac ni weddiais ger bron yr Arglwydd am hynny’r anturiais i, ac yr offrymmais boeth offrwm.
13A Samuel a ddywedodd wrth Saul, ynfyd y gwnaethost, ni chedwaist orchymyn yr Arglwydd dy Dduw yr hwn a orchymynnodd efe i ti: canys yr Arglwydd yn awr a gadarnhause dy frenhiniaeth di ar Israel hyd yn dragywydd.
14Ond yn awr ni saif dy frenhiniaeth di, yr Arglwydd a geisiodd iddo ŵr wrth ei galon ei hun, yr Arglwydd hefyd ai hordeiniodd ef yn flaenor ar ei bobl, o herwydd na chedwaist di yr hyn a orchymynnodd yr Arglwyddi ti.
15Yna y cyfododd Samuel, ac yr aeth i fynu o Gilgal i Gibea Beniamin: a chyfrifodd Saul y bobl a gafwyd gyd ag ef yng-hylch chwe chant o wŷr.
16Canys Saul ac Ionathan ei fab, a’r bobl y rhai a gafwyd gyd a hwynt oeddynt yn aros yn Gibea Beniamin: a’r Philistiaid a werssyllasant ym Micmas.
17Yna yr aeth allan o werssyll y Philistiaid anrhaith-wŷr, a thair byddin, vn fyddin a drodd tua ffordd Ophrah, tua gwlad Sual.
18A’r fyddin arall a drodd ffordd Beth-horon, a’r drydedd fyddin a drodd ffordd y terfyn sy’n edrych tua dyffryn Zeboim tua’r anialwch.
19Ac ni cheid gôf drwy holl wlâd Israel, canys dywedase y Philistiaid rhac gwneuthur o’r Hebreaid gleddyf neu waiwffon.
20Yna holl Israel a aent i wared at y Philistiaid i flaen-llymmu bob vn ei gwlltwr, ai gaib, ei fwyall hefyd, ai chwynnogl.
21Ond yr oedd llif-ddur minau i’r cwlltyrau, ac i’r ceibiau, i’r pig-ffyrch hefyd, ac i’r bwyill, ac i flaenllymmu y swmbylau.
22Felly yn nydd y rhyfel ni chaed yna na chleddyf, nag waiw-ffon yn llaw’r vn o’r bobl y rhai gyd a Saul, a chyd ag Ionathan ond a gaed gyd a Saul, ac Ionathā: ei fâb ef.
23A sefyllfa y Philistiaid a aeth allan i fwlch Micmas.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.