Zacharias 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Y mae yn annog y bobl i droi at yr Arglwydd oddi wrth feiau eu henafiaid, gan ddangos morr ymgoleddgar yw’r Arglwydd iddynt.

1Yr wythfed mîs o’r ail flwyddyn i Ddarius y daeth gair ’r Arglwydd at Zacharias fâb Baracias fab Ido y prophwyd, gan ddywedyd:

2Llwyr ddigiodd yr Arglwydd wrth eich tadau:

3A dywet wrthynt, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd: Iere.31.18.|JER 31:18. Esa.21.8. Esa.31.6. Esa.45.21.dychwelwch attaf fi, medd Arglwydd y lluoedd: a mi a ddychwelaf attoch chwithau, medd Arglwydd y lluoedd.

4Na fyddwch fel eich tadau, y rhai y galwodd y Iere.3.12.|JER 3:12. Ezec.18.20. Osea.14.2.|HOS 14:2. Ioel.2.12.prophwydi cyntaf arnynt, gan ddywedyd: fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, dychwelwch yn awr oddi wrth eich llwybrau drwg, a’ch gweithredoedd drygionus: ond ni chlywent, ac ni wrandawent arnaf, medd yr Arglwydd.

5Pa le y mae eich tadau? ac a fydd prophwydi fyw byth?

6Oni ddarfu er hynny i’m geiriau, a’m deddfau y rhai a orchymynnais wrth fyng-weision y prophwydi oddiwes eich tadau? fel y dychwelasant, ac y dywedasant, megis yr amcanodd Arglwydd y lluoedd wneuthur i ni: felly yn ôl ein llwybrau, a’n dychymygion ein hun y gwnaeth efe â ni.

7Y pedwerydd dydd ar hugain o’r vnfed mîs ar ddêc (hwnnw yw Sebat) o’r ail flwyddyn i Ddarius y daeth gair yr Arglwydd at Zacharias fab Baracias fab Ido y prophwyd gan ddywedyd,

8Gwelais noswaith, ac wele ŵr yn marchogeth ar farch côch, ac efe yn sefyll rhwng y myr-wŷdd, y rhai mewn pant, ac oi ôl ef feirch cochion, brithion, a gwynnion.

9Yna y dywedais, beth y rhai hyn fy Arglwydd? a dywedodd yr Angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi: mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn.

10A’r gŵr yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myr-wŷdd, a attebodd, ac a ddywedodd, dymma y rhai a hebryngodd yr Arglwydd i fyned trwy’r bŷd.

11A hwyntau a attebasant Angel yr Arglwydd yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrr, ac a ddywedasant, rhodiasom yr holl ddaiar, ac wele’r holl fŷd yn eistedd, ac yn gorphywys.

12Ac Angel yr Arglwydd a attebodd, ac a ddywedodd, ô Arglwydd y lluoedd, pa hŷd ni thrugarhei wrth Ierusalem, a dinasoedd Iuda, y rhai y digllonaist y deng-mhlynedd a thrugain hyn?

13A’r Arglwydd a attebodd yr Angel a oedd yn ymddiddan â mi eiriau daionus, geiriau cyssurus.

14A’r Angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddywedodd wrthif: gwaedda, gan ddywedyd, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, deliais eiddigedd mawr dros Ierusalem, a thros Sion.

15A digiais yn ddir-fawr wrth y cenhedloedd difraw, y rhai ddigiais ychydig, hwythau a gynnorthwyasant wneuthur niwed.

16Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, dychwelaf at Ierusalem mewn tirionder, fy nhŷ a adailedir ynddi medd Arglwydd y lluoedd: a llinin a estynnir ar Ierusalem.

17Gwaedda etto gan ddywedyd, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, fy ninasoedd a wascerir drwy ddaioni, a’r Arglwydd a rydd gyssur i Sion etto, ac a ddewis Ierusalem trachefn.

18A chodais fy llygaid, ac edrychais, ac wele bedwar corn.

19A dywedais wrth yr angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi, beth y rhai hyn? dywedodd yntef wrthif, y rhai hyn yw’r cyrn a wascarant Iuda, Israel, ac Ierusalem.

20A’r Arglwydd a ddangosodd i mi bedwar saer hefyd.

21Yna y dywedais, i wneuthur pa beth y daw y rhai hyn? ac efe a lefarodd, gan ddywedyd, y rhai hyn cyrn a wascarasant Iuda, fel na chode vn ei ben: a’r rhai hyn a ddaethant iw tarfu hwynt, ac i daflu allan gyrn y cenhedloedd, y rhai a godant eu cyrn ar wlâd Iuda, iw gwascaru hi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help