1 Yn Math.15.32.y dyddiau hynny, pan oedd y dyrfa yn fawr iawn ac heb ganddynt ddim iw fwytta, y galwodd yr Iesu ei ddiscyblion, ac a ddywedodd wrthynt.
2Yr wyfi yn tosturio wrth y dyrfa, am iddynt aros gyd â mi er ys tridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim iw fwyta.
3Ac os anfonaf hwynt ymmaith iw teieu eb fwyd, hwynt hwy a lewygant ar y ffordd, canys llawer o honynt a ddaethant o bell.
4A’i ddiscyblion ef a’i hattebasant, o ba le y gall neb ddigôni y rhai hyn â bwyd ymma yn yr anialwch?
5Ac efe a ofynnodd iddynt, pa sawl torth sydd gennwch? a hwynt hwy a ddywedasant, saith.
6Yntef a orchymynnodd i’r dyrfa eistedd ar y llawr: ac chan gymmeryd y saith dorth, wedi rhoi diolch efe a’u torrodd ac a’u rhoddes iw ddiscyblion iw gosod ger eu bronnau, a hwynt a’u gosodasant ger bron y bobl.
7Ac yr oedd ganddynt ychydig byscod bychein: ac wedi iddo fendigo efe a barodd ddodi y rhai hynny hefyd ger eu bronnau
8A hwy a fwyttasant, ac a gawsant ddigon, a hwy a godasant o’r briwfwyd gweddill saith bascedaid.
9A’r rhai a fwyttasant oeddynt yng-hylch pedair mil, ac efe a’u gollyngodd hwynt ymmaith.
10Ac Math.15.39.yn y man wedi iddo fyned i long gyd â’i ddiscyblion, efe a ddaeth i barthau Dalmanutha.
11A’r Math.16.1. Pharisæaid a ddaethant ac a ddechreuasant ymholi ag ef, gan ofyn ganddo arwydd o’r nef gan ei demtio.
12Yntef gan ddwys ocheneidio yn ei yspryd a ddywedodd, Pa ham y mae y genhedlaeth honn yn ceisio arwydd? yn wir meddaf i chwi, na roddir arwydd i’r genhedlaeth honn.
13Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth i’r llong trachefn, ac a dynnodd ymmaith i’r lann arall.
14A’r Math.16.5. a adawsant yn angof ddwyn bara gyd â hwynt, ac nid oedd ganddynt onid vn dorth yn y llong.
15Yna y gorchymynnodd efe iddynt, gan ddywedyd, Gwiliwch ac ymogelwch rhag surdoes y Pharisæaid a surdoes Herod.
16Ac ymresymmu a wnaethant y naill wrth y llall, gan ddywedyd, nid oes gennym mor fara.
17A’r Iesu gan ŵybod hynny a ddywedodd wrthynt: pa ymresymmu ’r ydych am nad oes gennwch fara? ond ydych chwi etto yn ystyried, nac yn deall? a ydyw eich calonneu chwi etto etto wedi caledu?
18Gan fod gennwch lygaid oni welwch chwi? a chan fod gennwch chwi glustiau oni chlywch chwi? ac onid ydych yn cofio?
19Pan Ioan.6.11. dorrais y pump torth hynny ym mysc pum mil, pa sawl bascedaid o’r briwfwyd a godasoch i fynu? a hwynt a ddywedasant, deuddec.
20A phan y saith ym mhlith pedair mil, pa sawl bascedaid o’r briwfwyd a godasoch i fynu? a hwynt a ddywedasant, saith.
21Ac efe ddywedodd wrthynt, pa fodd nad ydych yn deall?
22Ac efe a ddaeth i Bethsaida, a hwy a ddugasant atto vn dall, ac a ddeisyfiasant arno ar iddo gyffwrdd ag ef.
23Yna y cymmerth efe y dall erbyn ei law ac a’i tywysodd ef allan o’r dref: ac wedi iddo boeri yn ei lygaid ef, a rhoi ei law arno, efe a ofynnodd iddo, a oedd efe yn gweled dim.
24Ac efe a gododd ei olwg ac a ddywedodd: yrwyfi yn gweled dynion yn rhodio fel coed.
25Wedi hynny y gosodes efe ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef, ac a barodd iddo edrych eilwaith: ac yna y cafas ei olwg, ac efe a wele bawb o bell ac yn eglur.
26Ac efe a’i anfonodd ef adref iw dŷ, gan ddywedyd, na ddos i’r dref ac na ddywed i neb yn y dref.
27A’r Math.16.13. Luc 9.18Iesu gyd â’i ddiscyblion a aethant i mewn i drefydd Cæsarea Philippi: ac ar y ffordd efe a holodd ei ddiscyblion gan ddywedyd: Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i?
28A hwynt a attebasant: Ioan Fedyddiwr, a rhai Elias, ac eraill vn o’r prophwydi.
29Ac efe a ddywedodd wrthynt, a phwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? Petr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Ti yw’r Crist.
30Ac efe a waharddodd iddynt, ddywedyd i neb hynny am dano ef.
31Ac efe a ddechreuodd eu dyscu hwynt, fod yn rhaid i Fab y dŷn oddef llawer, ai wrthod gan yr henuriaid yr arch-offeiriaid a’r scrifennyddion, ai ladd, a thri-diau wedi adgyfodi.
32A’r ymadrodd hwnnw a ddywedodd efe yn oleu. Yna Petr a’i cymmerth ef, ac a ddechreuodd ei geryddu ef.
33Eithr wedi iddo droi ac edrych ar ei ddiscyblion, a geryddodd Petr gan ddywedyd, dos ymmaith yn fy ôl Satan am nad ydwyt yn synnied y pethau sy o Dduw, ond y pethau sy o ddynion.
34Ac wedi iddo ef alw’r dyrfa gyd â’i ddiscyblion, efe a ddywedodd wrthynt: y Math.10.38. & 16.24|MAT 16:24. Luc 9.23|LUK 9:23 & 14.27neb a fynno fy nilyn i, ymwrthoded ag ef ei hun, a chymered ei groes a dilyned fi.
35Canys pwy bynnag a fynno gadw ei enioes a’i cyll hi: Math.10.39. & 16.25|MAT 16:25. Luc 9.24|LUK 9:24 & 17.33 a phwy bynnag a gyll ei enioes er fy mwyn i a’r Efengyl, efe ai ceidw hi.
36Canys pa lesaad i ddŷn ennill yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun?
37Neu pa gyfnewid a rydd dŷn am ei enaid?
38Canys Math.10.33. Luc.9.26pwy bynnag a fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau, yn yr odinebus a’r bechadurus genhedlaeth hon: bydd cywilydd gan Fab y dŷn yntef hefyd, pan ddel yng-ogoniant ei Dad gyd a’r angelion sanctaidd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.