1Yna Iudas Machabeus a’r rhai oeddynt gyd ag ef a aethant yn ddirgel i’r pentrefi, ac a alwasant eu ceraint, ac a gymmerasant y rhai oeddynt yn aros yn-brefydd yr Iddewon, ac a gasclasant yng-hyd chwemîl o wŷr.
2Felly hwy a alwasant ar yr Arglwydd, ar edrych o honaw ar ei bobl, y rhai yr oedd pawb yn eu cystuddio, ac ar fod o honaw yn drugarog wrth y deml, yr hon a ddarfase i’r dynion drwg ei halogi,
3Ac ar dosturio o honaw wrth y ddinas (yr hon ydoedd wedi ei dinistrio, ac agos yn vn a’r llawr) ac ar wrando o honaw ar lef gwaed y rhai a laddasid yn gweiddi arno ef,
4Ac ar gofio o honaw anghyfreithlon laddiad y plant gwirion, a’r cabl eiriau a ddywedasid yn erbyn ei enw, ac ar ddangos câs yn erbyn drygioni.
5Yna Machabeus wedi cynnull yng-hyd ei lu, a’r cenedloedd heb allu ei wrthwynebu, gan droi o’r Arglwydd ei ddigofaint yn drugaredd,
6Efe a ddaeth yn ddisymmwth, ac a loscodd y dinasoedd ar pētrefi, ac a feddiānodd y lleoedd cymhwysaf, gan yrru llawer oi elynnion i ffoi.
7Ond yn bennaf efe a arferodd liw nôs wneuthur cyfryw dderfyscoedd, hyd onid aeth y gair oi wroldeb ef i bôb lle.
8Ond pan welodd Philip dyfu o’r gŵr hwn yn fuan o fesur ychydig, ac ychydig, ai fôd yn llwyddiannus: efe a scrifennodd at Ptolemeus llywodraethwr Caelosyria a Phenicia, yw swccrio ef yn achosion y brenin.
9Yna efe a etholodd Nicanor mab Patroclus, vn oi geraint pennaf, ac ai danfonodd ef, gan roddi o bob rhai o’r cenhedloedd nid llai nag vgain mîl, i ddiwreiddio allan holl genedl yr Iddewon: a hefyd efe a gysylldodd yng-hyd ag ef Gorgias y capten, gŵr cyfarwydd mewn matterion rhyfel.
10Nicanor hefyd a ordeiniodd am deyrnged y brenin o ddwyfil o dalentau, yr hon a ddyle ’r Rhufein-wŷr ei chael, gan yr Iddewon y rhai a ddelid yn garchororion y cymmerid hi.
11Am hynny efe anfonodd yn y man i’r dinasoedd ar lan y môr, iw hannog hwy i brynu yr Iddewon i fod yn weision iddynt, gan addo y gwerthe ddêg a phedwar vgain er vn talent: ond nid ydoedd efe yn ystyrio dial Duw, yr hwn a ddescynne arno ef.
12Pan wybu Iudas fod Nicanor yn dyfod, efe a fynegodd i’r rhai oeddynt gyd ag ef fôd y gelynnion yn nesau.
13Weithieu yr oedd rhai yn ofnus, y rhai ni choelient i gyfiawnder Duw, ond ffoi a wnaethāt, a myned ymmaith o’r fan honno
14Rhai eraill hefyd a werthasent yr hyn oll a adawsid, ac ar yr vn waith a weddiasant ar yr Arglwydd, ar waredu o honaw ef hwynt oddi wrth yr annuwiol Nicanor, yr hwn ai gwerthase hwynt cyn dyfod o honynt yng-hyd.
15Ar er na’s gwnele efe hyn er eu mwyn hwynt, etto er mwyn ei gyfammod ai teidiau, ac er mwyn iddynt alw ar ei sanctaidd ai ogoneddus enw ef.
16Yna Machabeus wedi galw ei wŷr ynghyd, hyd yn nifer chwe mîl, a attolygodd iddynt, na ddigalōnent o blegit eu gelynnion, ac nad ofnent amlder y cēhedloedd y rhai oeddynt yn dyfod arnynt yn ddiachos: ond rhyfela o honynt yn ŵrol, gan osod ger bron eu llygaid y dirdra a wnaethent yn anheilwng i’r lle sanctaidd,
17A’r gurfa a roddasid i’r ddinas yr hon a watwaresid, a dirymmiad y llywodraeth a dderbyniasent hwy gan eu henafiaid.
18Canys y maent hwy yn ymddyried mewn arfau a hyfder, ond nyni a ymddyriedwn yn Nuw oll alluog yr hwn a all ddifetha yr rhai ydynt yn dyfod yn ein erbyn, a’r holl fŷd hefyd ag amnaid.
19Ac hefyd efe a gofiodd idynt gymmorth Duw yr hwn a ddangosasid iw tadau, sef pan syrthiodd cant a phewar vgain a phum mîl tann 2.Bren.19.35.Senacherib,
20A’r rhyfel a wnaethid yn Babilon yn erbyn y Galatiaid, fel y daethe o honynt hwy eu gyd i’r maes wyth mil, gyd â phedair mil o’r Macedoniaid: a phan amheuodd y Macedoniaid, yr wyth cant hynny a laddasant vgain mîl a chant drwy gymmorth a roddasid iddynt o’r nef, trwy ba vn y derbyniasant lawer o fudd.
21Bellach wedi iddo eu cyssuru a’r pethau hyn ai gwneuthyd yn barod i farw dros y cyfreithiau a’r wlâd,
22Efe a rannodd ei lu yn bedair rhann, ar a wnaeth ei frodyr ei hun yn gapteniaid ar y llu: sef Simon, Ioseph, ar Ionathas, gan roddi i bob vn bymthec-cant o ryfel-wŷr.
23Ac wedi i Eleazar ddarllen y llyfr sanctaidd a rhoddi iddynt yn arwydd, DRWY help Duw, efe yn gapten y llu blaenaf a aeth ynghyd â Nicanor.
24Ac o herwydd bod yr Holl-alluog yn rhyfela trostynt, hwy a laddasant o’r gelynnion vwch law naw mîl, ac a glwyfasant, ac a gloffasant y rhan fwyaf, ac a yrrasant bawb i ffoi.
25Ac a gymmerasant yr arian oddi ar y rhai a ddaethent iw prynu, ac ai hymlidiasant ym-mhell, ond am fod arnynt eisieu amser hwy a ddychwelasant.
26Canys y dydd o flaen y Sabboth oedd efe, am hynny ni fynnent eu hymlyd hwy ymmhellach.
27Fel hyn hwy a gymmerasant eu harfau, ac a yspeiliasant y gelynnion, ac a gadwasant y Sabboth gan fawr fendithio a moliannu ’r Arglwydd yr hwn ai gwaredase y dydd hwnnw, ac a dywalltase arnynt ddechreuad ei drugaredd.
28Hefyd yn ôl y Sabboth hwy a rannasant rann o’r y spail i’r cleifion, i’r gweddwon, ac i’r ymddifaid, a’r hyn oedd yng-weddill a gymmerasant iddynt eu hun ai plant.
29Ac yn ôl gwneuthur y pethau hyn, a gwneuthur o honynt gyffredin weddi, hwy a attolygasant i’r Arglwydd trugarog gymmodi o’r diwedd âi weision.
30Wedi hynny ar vnwaith hwy a syrthiasant ar vchaf Timotheus a Bachis, ac a laddasant vwchlaw vgain mîl, ac a ennillasant vchel a chadarn gestill, ac a rannasant yspail lawer yn gyffredinol rhyngddynt hwy a’r cleiifon, a’r ymddifaid, a’r gweddwon, a’r henaf-gwŷr diffrwyth.
31Hefyd hwy a gasclasant eu harfau ynghyd, ac ai dygasant i leoedd cymmwys, a’r yspail arall a arweinasant i Ierusalem.
32Hwy a laddasant hefyd Philarches, yr hwn ydoedd gyd â Timotheus, dyn annuwiol, ac vn a ddygase orthrymderau lawer ar yr Iddewon.
33Yn yr vn ffunyd pan oeddynt yn cadw gŵyl y goruchafiaeth yn eu gwlad, hwy a loscasant Calisthenes yr hwn a loscase ’r pyrth sanctaidd, ac a ffoese i ryw dŷ bychan iw achub ei hun, am hyuny efe a dderbyniodd wobr addas am ei anwiredd.
34A Nicanor annuwiol (yr hwn a ddygase fil o farsiandwŷr i brynu ’r Iddewon)
35Wedi ef ddarostwng trwy help yr Arglwydd gan yr rhai y tybiase efe nad oeddynt ddim, yn gymmeint a gorfod iddo fwrw ymmaith ei addurn wisc, a ffoi trwy ’r canol fôr megis gwibbiad, a dyfod heb adel neb gyd ag ef i Antiochia, a’r ffynniant mwyaf a gafodd efe oedd colli ei lu.
36Fel hyn yr hwn a addawse dalu teyrn-ged i’r Rhufeinwŷr o’r carchororion y rhai oeddynt yn Ierusalem, a ddygod newyddion fod gan yr Iddewon amddeffynnwr, sef Duw: ac oblegit hyn na’s galle nêb wneuthur niwed iddynt, o herwydd eu bôd yn cadw y cyfreithiau a orchymynnase efe iddynt hwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.