Ecclesiasticus 48 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLVIII.Clôd Elias, Elizeus, Ezechias ac Esai.

1Yna y cododd 1.Bren.17.1.Elias y prophwyd fel tân, ai air ef a losce fel lusern.

2Yr hwn a ddug arnynt hwy newyn mawr a thrwy ei zêl ai gwnaeth hwy yn ychydig.

3Efe a gaeodd y nefoedd trwy air yr Arglwydd, a 1.Bren.18.38. & 2.bren.1.10.thair gwaith y dug efe dân: ô Elias mor ogoneddus fuost ti yn dy ryfeddodau:

4Pwy a ddichon ymffrostio fel ty di:

5Yr hwn 1.Bren.17.21.a gyfodaist marw o farwolaeth, a dŷn o’r bedd trwy air y Goruchaf.

6Yr hwn a ddygaist frenhinoedd i ddinistr, a phendefigion oi heisteddfa.

7Yr hwn a glywaist gerydd yr Arglwydd yn Sina, a barnedigaethau dialedd 1.Bren.19.15.yn Ho­reb.

8Yr hwn 1.Bren.19.16.a eneiniodd frenhinoedd i dalu y pwyth, a phrophwydi i ddilyn ar ei ôl ef.

9 2.Bren.2.11. malach.4.5. Yr hwn a godwyd i fynu mewn tro-wynt o dân, ac mewn cerbyd meirch tânlyd.

10Yr hwn a ordeiniwyd i geryddu mewn prŷd, ac i ostegu digter yr Arglwydd cyn iddo lidio, ac i droi calon y tadau at y meibion, ac i grynhoi llwythau Iacob.

11Gwyn eu byd hwy a’th welsant di, ac a hunasant mewn cariad:

12Canys nyni a fyddwn byw.

13Elias 2.Bren.2.11.a orch-guddiwyd yn y dymestl, ac Elizeus a lanwyd âi yspryt ef: ni syflodd efe er tywysogion yn ei ddyddiau, ac ni allodd neb ei feistroli ef.

14Ni orchfygodd dim ef, ac wedi ei huno ef, 2.Bren.13.21.fe a brophwydodd ei gorph ef.

15Efe a wnaeth ryfeddod yn ei fywyd, ac yn ei ddiwedd rhyfedd oedd ei weithredoedd ef.

16Er hyn oll ni chymerodd y bobl edifeirwch, ac ni chiliasant oddi wrth eu pechodau, 2.Bren.18.11.hyd oni chaethgludwyd hwynt oi gwlâd, ai gwascaru ym mhob gwlâd:

17A gadel ychydig bobl a thywysog yn nhy Ddafyd.

18Rhai o honynt hwy a wnaethant yr hyn a oedd yn rhyglyddu bodd, a rhai a wnaethant lawer o bechod.

19 2.Bren.18.2. Ezecias a gadarnhaodd ei ddinas, ac a ddug ddwfr iw chanol hi: efe a gloddiodd y graig â haiarn, ac a wnaeth ffynhōnau i’r dwfr.

20Yn ei ddyddiau ef 2.Bren.18.13.y daeth Senacharib i fynu, ac a anfonodd Rabsaces o Lachis, ac a dderchafodd ei law yn erbyn Sion, ac a ymffrostiodd yn ei falchder.

21Yna y crynnodd eu calonnau, ai dwylo hwynt, ac yr ymofidiasant hwy fel gwragedd yn escor.

22Ond hwy a alwasant ac yr Arglwydd trugarog, gan estyn eu dwylo atto ef.

23A’r hwn sanctaidd ai gwrandawodd hwynt o’r nefoedd, ac ai gwaredodd hwynt trwy law Esai.

24Efe 2.Bren.19.35.|2KI 19:35. esa.37.36.|ISA 37:36. tob.1.18.|TOB 1:18. 1.mac.7.41.|1MA 7:41 2.mac.8.19.a ddifethodd lu yr Assyriaid, ai angel ef ai dinistriodd hwynt.

25O blegit Ezecias a wnaethe yr hyn a oedd fodlon gan yr Arglwydd, ac a ddilynodd ffyrdd Dafydd ei dad yn lew, fel y gorchymynnase y prophwyd Esai, yr hwn oedd fawr a pharchedic yn ei olwg ef.

26Yn 2.Bren.20 10|2KI 20:10. esa.38.8ei ddyddiau ef yr aeth yr haul yn ei ôl, ac efe a estynnodd hoedl y brenin.

27Trwy yspryd godidog y gwelodd efe y pethau a fyddent yn ddiweddaf, ac y cyssurodd efe y rhai a oeddynt athrist yn Sion tros byth.

28Efe a ddangosodd y pethau a ddeuent, byth, a phethau a oeddynt ddirgel cyn eu dyfod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help