Diharebion 29 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIX.

1Gwr a gerydder yn fynych ac a galeda ei warr, a ddryllir yn ddisymmwth fel na byddo meddiginiaeth.

2Pan amlhaer y cyfiawn y bobl a lawenychant: ond pan fyddo’r annuwiol yn llywodraethu y bobl a ocheneidiant.

3 Luc.15.13. Gŵr a garo ddoethineb a lawenycha ei dad: ond y neb a fyddo gyfaill i butteiniaid a ŷssa ei dda.

4Brenin drwy farn a gadarnhâ ei deyrnas, ond y neb a garo anrhegion, ai dinistria hi.

5Y gŵr a ddywedo weniaith wrth ei gymmydog sydd yn gosod magl iw draed ef.

6Croglath ddrwg fydd i’r neb a becho: ond y cyfiawn a gân, ac a fydd lawen.

7Y cyfiawn a wrendu ar fatter y tlodion, ond yr annuwiol nid ystyria am ŵybod.

8Dynnion gwatwarus a ddifethant ddinas, ond y doethion a droant ymmaith ddigofaint.

9Gŵr doeth a ymrysono â dŷn ffôl pa vn bynnac a wnel efe ai digio, ai chwerthin, etto ni bydd llonyddwch.

10Gwŷr gwaedlyd a gasânt yr iniawn ond iniawn a ymgais ag ef.

11Y ffôl a dywallt ei hôll feddwl: ond gŵr doeth ai hattall hyd yn ôl llaw.

12Pan fyddo’r llywydd yn gwrando ar ffalsedd, ei hôll weision fyddant annuwiol.

13Tlawd a’r cyfoethog a gŷdgyfarfyddant, a’r Arglwydd a lewyrcha eu llygaid hwy ill dau.

14Y brenin a farno’r tlodion yn ffyddlon ei orsedd a beru byth.

15Y wialen a cherydd a rydd ddoethineb: ond mab a gaffo ei rwysc ei hun a gywilyddia ei fam.

16Pan amlhao’r rhai annuwiol yr amlhâ pechod: ond y rhai cyfiawn a welant eu cwymp hwynt.

17Dysc dy fab ac ti a gei lonyddwch: ac efe a bar hyfrydwch i’th enaid.

18Lle ni byddo gweledigaeth methu a wna’r bobl: ond y neb a gadwo’r gyfraith gwyn ei fŷd ef.

19Ni chymmer gwâs addysc ar eiriau: canys er ei fod yn deall etto nid ettyb.

20A weli di ddŷn pryssur yn ei eiriau: gwell yw’r gobaith am y ffôl nag am dano ef.

21Y neb a ddygo ei wâs i fynu yn foethus oi febŷd, o’r diwedd efe a fydd mab

22Gŵr digllon a enynna gynnen, a’r digllon sydd aml ei gamwedd.

23Balchder dŷn ai bwrw i lawr, ond gostyngedig yspryd a gynnal anrhydedd.

24Y neb a gyfranno â lleidr a gasâ ei enaid ei hun: a’r neb hefŷd a wrandawo ar beth melldigedig heb ei gyhuddo.

25Yr hwn sydd yn ofni dŷn sydd yn gosod magl yn ei erbyn ei hun: ond y neb a ymddyriedo yn yr Arglwydd a dderchefir yn ddiogel.

26Llawer a ymgeisiant ag wyneb y llywydd: ond yr Arglwydd pie barnu pob dŷn.

27Ffiaidd gan y cyfiawn ŵr anwir: a ffiaidd gan yr annuwiol ŵr iniawn ei ffordd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help