Genesis 8 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VIII.Y dyfroedd yn treio. 7 Noah yn anfon allan y gig-fran ar golommen. 16 Mynediad Noah allan o’r Arch, 20 ai aberth.

1Yna Duw a gofiodd Noah, a phôb bwyst-fil a phôb anifail, y rhai gyd ag ef yn yr Arch: a gwnaeth Duw i wynt dramwyo ar y ddaiar, a’r dyfroedd a lonyddasant.

2Caewyd hefyd ffynhonnau y dyfnder a ffenestri y nefoedd: a lluddiwyd y glaw o’r nefoedd.

3A’r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaiar gan fyned a dychwelyd: ac ym mhen deng nhiwrnod a deugain a chant y dyfroedd a dreiasent.

4Ac yn y seithfed mîs, ar yr ail ddydd ar bymthec o’r mîs, y gorphywysodd yr Arch ar fynyddoedd Armenia.

5A’r dyfroedd fuant yn myned, ac yn treio hyd y decfed mîs, yn y decfed ar y cyntaf o’r mîs y gwelwyd pēnau y mynyddoedd.

6Ac ym mhen deugain nhiwrnod yr agorodd Noah ffenestr yr Arch yr hon a wnaethe efe.

7Ac efe a anfonodd allan gig-frân, a hi aeth, gan fyned allan a dychwelyd: hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaiar.

8Yna’r anfonodd efe y golommen oddi wrtho, i weled a yscafnhause y dyfroedd oddi ar wyneb y ddaiar.

9Ac ni chafodd y golommen orphwysfa i wadn ei throed, am hynny hi a ddychwelodd atto ef i’r Arch, am y dyfroedd ar wyneb yr, holl-dîr: ac efe a estynnodd ei law, ac ai cymmerodd hi, ac ai derbynniodd hi atto i’r Arch.

10Ac efe a ddisgwiliodd etto saith niwrnod eraill, yna yr anfonodd efe eil-waith y golommen o’r Arch.

11A’r golommen a ddaeth atto ef ar bryd nawn, ac wele ddeilen oliwydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noah yscafnahau y dyfroedd oddi ar y tir.

12Ac efe a ddisgwiliodd etto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golommen, ac ni ddychwelodd hi ail-waith atto ef mwy.

13Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y cyntaf, ar y cyntaf o’r mîs, y darfu i’r dyfroedd sychu oddi ar y tir: a Noah a symmudodd gaead yr Arch, ac a edrychodd, ac wele wyneb y ddaiar a sychase.

14Ac yn yr ail mîs, ar y seithfed dydd ar hugain o’r mîs, y ddaiar a sychase.

15Yna y llefarodd Duw wrth Noah gan ddywedyd:

16Dos allan o’r Arch, ti, a’th wraig, a’th feibion, a gwragedd dy feibion, gyd a thi.

17Pôb bwyst-fil yr hwn gyd a thi, o bôb cnawd, yn adar, ac yn anifeiliaid, ac yn bôb ymlusciad yn ymlusco ar y ddaiar, a ddygi allan gyd a thi: Gen.1.22.|GEN 1:22. Gene.9.1.heigiant hwythau yn y ddaiar, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaiar.

18Yna Noah a aeth allan ai feibion, ai wraig, a gwragedd ei feibion, gyd ag ef.

19Pôb bwyst-fil, pôb pryf, a phôb ehediad, pôb ymlusciad ar y ddaiar, wrth eu rhywogaethau a daethant allan o’r Arch.

20A Noah a adailadodd allor i’r Arglwydd, ac a gymmerodd o bôb anifail glân, ac o bôb ehediad glân, ac a offrymmodd boeth offrymmau ar yr allor.

21Yna’r aroglodd yr Arglwydd arogl esmwyth; a dywedodd yr Arglwydd yn ei galon ni chwanegaf felldithio y ddaiar mwy er mwyn dŷn: er brŷd calon dŷn yn ddrwg oi ieuenctid: ac ni chwanegaf mwy ladd pôb byw, fel y gwneuthum.

22Pryd hâu, a chynhaiaf, ac oerni, a gwrês, a hâf, a gaiaf, a dydd, a nôs, ni pheidiant mwy holl ddyddiau y ddaiar.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help