1Gwae Ariel, Ariel, y gaer y gwersyllodd Dafydd chwanegwch flwyddyn at flwyddyn, lladder ŵyn.
2Etto mi a warchâf ar Ariel, fel y byddo galar, a griddfan, ac y byddo hi i mi fel allor.
3Yna y gwerssyllaf yn grwn i’th erbyn, ac a warchaeaf i’th erbyn gwarch-dŵr, ac a gyfodaf warch-glawdd yn dy erbyn.
4Felly i’th ostyngir, o’r ddaiar y lleferi, ac o’r llwch y bydd issel dy leferydd: dy lais fydd hefyd o’r ddaiar, fel swyn-wr, a’th ymadrodd a ddrydar o’r llwch.
5A thyrfa dy ddieithriaid fydd fel llwch mân, a thyrfa y cedyrn fel peiswyn yn myned heibio, ac a dderfydd yn ddisymmwth ddiattrec.
6Oddi wrth Arglwydd y lluoedd y gofwyir drwy daran, a thrwy grynfa, a thwrwf mawr, gorwynt, a rhyferthwy, a fflam dân ysol.
7Yna y bydd tyrfa’r holl genhedloedd y rhai a ryfelant yn erbyn Ariel fel breuddwyd gweledigaeth nôs, sef y rhai oll a ymladdant yn ei herbyn hi, ai hamddeffynfa, ac a warchânt arni.
8Ie bydd megis newynoc yr wn a freuddwydo, ac wele ef yn bwytta, a phan ddeffru gwâg fydd ei enaid: ac megis y sychedic yr hwn a freuddwydo, ac wele ef yn yfed, a phan ddeffru wele ef yn ddeffygiol, ai enaid yn chwennych felly y bydd tyrfa y rhai oll a lueddant yn erbyn mynydd Sion.
9Pwyllwch, a rhyfeddwch, bloeddiwch, a gwaeddwch, meddwasant, ac nid wîn ymsiglasant, ac nid ddiod gadarn.
10Canys tywalltodd yr Arglwydd arnoch yspryd trym-gwsc, ac a gaeodd eich llygaid chwi, eich prophwydi a’ch pennaethiaid, creiffion a orchguddiodd efe.
11A gweledigaeth pob vn fydd i chwi fel geiriau llyfr seliedic, yr hwn rhoddant ef at a fedr y llyfr, gan ddywedyd, agor hwn, attolwg: yna y dywed, ni allaf, canys seliwyd ef.
12Os rhoddir y llyfr at yr hwn ni feidr lyfr, gan ddywedyd, darllen hwn attolwg: yna y dywed, ni fedraf lyfr.
13Dywedodd yr Arglwydd hefyd, o herwydd nessau y bobl hyn ai genau, a’m anrhydeddu ai gwefusau, a phellhau eu calon oddi wrthif, a bod eu parch hwynt arnafi, wedi ei ddyscu allan o athrawiaeth dynnion,
14Am hynny wele fi yn gwneuthur yn rhyfedd a’r bobl hyn wyrthiau a rhyfeddod, canys difethir doethineb eu doethion hwynt, a deall eu rhai deallgar hwynt a ymguddia.
15Gwae y rhai a ymgyfrwysant i guddio cyngor oddi wrth yr Arglwydd: ac y mae eu gweithredoedd mewn tywyllwch, ac a ddywedant, pwy a’n gwel ni? a phwy a’n hedwyn?
16Onid fel clai crochenudd y cyfrifir eich trofa chwi, canys a ddywed y gwaith am y gweithudd, ni’m gwnaeth i? ac a ddywed y peth a luniwyd am yr hwn ai llunniodd, nid yw ddeallus?
17Onid ychydig bach fydd etto hyd oni throir Libanus yn ddol-dir, a’r dol-dir a gyfrifir yn goed,
18A’r dydd hwnnw y rhai byddar a glywant eiriau y llyfr, a llygaid y deillion a welant o gwmwl, a thywyllwch.
19Yna’r trueniaid a chwanegant lawenychu yn yr Arglwydd: a’r dynnion tlodion a ymhyfrydant yn Sanct Israel.
20Pan ddarfyddo y cadarn, a phallu y gwatwarus, yna y diwreiddir y rhai oll a wiliant am anwiredd,
21Y rhai a wnant i ddyn bechu mewn gair, ac a osodant faglau yn y porth i’r hwn ceryddo, ac a wnant i’r cyfiawn wyro trwy goegni.
22Am hynny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd (yr hwn a waredodd Abraham) am dŷ Iacob, weithian ni chywilyddir Iacob, ac ni lassâ ei wyneb ef.
23Eithr pan welo efe ei feibion, gwaith fy nwylo mau fi oi fewn, y sancteiddiant fy enw, ie sancteiddiant Sanct Iacob, ac ofnant Dduw Israel.
24Yna y rhai cyfeiliornus o yspryd a fedrant ddeall, a’r grwgnach-wŷr a ddyscant athrawiaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.