1Fy mab os derbynni di fyng-eiriau, ac os cuddi fyng-orchymynnion gyd â thi.
2Os peri i’th glustiau wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddi dy galon at ddeall:
3Ac hefyd os gelwi ar ôl gŵybodaeth, os llefi am ddeall,
4Os chwili am dani fêl am arian, os cloddi am dani fel am dryssorau,
5Yna y cei ddeall ofn yr Arglwydd, ac y cei ŵybodaeth o Dduw.
6Canys yr Arglwydd pie rhoi doethineb, allan oi enau ef y mae gŵybodaeth a deall
7Y mae ganddo ef yng-hadw i’r rhai iniawn iechydwriaeth: tarian yw efe i’r sawl a rodiant yn ddiragrith.
8Y mae efe yn cadw ffordd ei sainct, fel y gallant gadw llwybrau barn.
9Yna y cei di ddeall cyfiawnder, a barn, ac iniondeb, a phob llwybr daionus.
10Pan ddelo doethineb i mewn i’th galon, a phan fyddo hyfryd gan dy enaid ŵybodaeth,
11Yna cyngor a’th warche, a synwyr a’th geidw.
12Hi a’th achub di oddi wrth y ffordd ddrwg, ac oddi wrth y dŷn a lefaro drawsedd.
13Ac oddi wrth y rhai a ymadawant a’r llwybrau iniawn er mwyn rhodio mewn ffyrdd tywyll.
14Y rhai a ymlawenychant yn gwneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus.
15Y rhai sydd ai ffyrdd yn geimion, ac yn war-syth yn eu llwybrau.
16Ac yna i’th waredir oddi wrth y fenyw estronaidd, oddi wrth y ddieithr wenieithus ei geiriau.
17Yr hon a ymedu a llywodraeth-wr ei hieuengctid, ac a ollwng dros gof gyfammod ei Duw.
18Canys y mae ei thŷ yn gŵyro at angeu, ai llwybrau at y meirw.
19Y rhai oll a elont i mewn atti hi ni ddychwelant, ac nid ymafaelant yn ffyrdd y bywyd.
20Am hynny rhodia di rhyd ffordd gwŷrda, a chadw ffordd y cyfiawn.
21Canys y gwŷr cyfiawn a bresswyliant y ddaiar, a’r rhai diragrith a gânt aros ynddi.
22 Iob.19.17. Ond yr annuwolion a dorrir oddi ar y ddaiar, a’r trossedd-wŷr a ddiwreiddir allan o honi hi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
