1Yna y bû pan ddechreuodd dynion amlhau ar wyneb y ddaiar, a geni merched iddynt,
2Weled o feibion Duw ferched dynion mai teg hwy, a hwynt a gymmerasant iddynt wragedd o’r rhai oll a ddewisasant.
3Yna y dywedodd yr Arglwydd nid ymrysona fy yspryd i a dŷn yn dragywydd, o blegit mai cnawd yw efe: ai ddyddiau fyddant ugain mlhynedd, a chant.
4Cawri oeddynt ar y ddaiar y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd, pan ddaeth meibion Duw at ferched dynion, a phlanta iddynt: dymma y cedyrn y rhai wŷr enwoc gynt.
5A’r Arglwydd a Gen.8.21.|GEN 8:21. Mat.15.19.welodd mai aml oedd drygioni dŷn ar y ddaiar, â holl fwriad, meddyl-fryd ei galon yn unic yn ddrygionus bôb amser.
6Yna yr edifarhaodd ar yr Arglwydd wneuthur o honaw efe ddyn ar y ddaiar, ac efe a ymofidiodd yn ei galon.
7A’r Arglwydd a ddywedodd, deleaf ddŷn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaiar, o ddŷn, hyd anifail, hyd yr ymlusciad, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennif eu gwneuthur hwynt.
8Ond Noah a gafodd ffafor yng-olwg yr Arglwydd.
9Dymma genhedlaethau Noah, Noah ŵr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyd a Duw y rhodiodd Noah.
10A Noah a genhedlodd dri o feibion, Sem, Cam a Iapheth.
11A’r ddaiar a lygreasyd ger bron Duw, llanwasyd y ddaiar hefyd a thrawsedd.
12Yna yr edrychodd Duw ar y ddaiar, ac wele hi a lygreasyd, canys pôb cnawd a lygrease ei lwybr ar y ddaiar.
13A Duw a ddywedodd wrth Noah, diwedd pôb cnawd a ddaeth ger fy mron: o blegit llanwyd y ddaiar a thrawsedd oi herwydd hwynt: ac wele myfi ai difethaf hwynt gyd ar ddaiar.
14Gwna di it Arch o goed Gopher, yn gellau y gwnei’r Arch, a phyga hi oddi fewn, ac oddi allan a phŷg.
15Fel hyn y gwnei hi, try chan cufydd hŷd yr Arch, dec cufydd a deûgain ei llêd, a dec cufydd ar hugain ei huchter.
16Gwna Fenestr i’r Arch, a gorphenn yn gufydd oddi arnodd: a gosot ddrws yr Arch yn ei hystlys: o drî y gwnei di hi.
17O herwydd wele fi yn dwyn dyfroedd diluw ar y ddaiar, i ddifetha pob cnawd, yr hwn anadl enioes ynddo, oddi tann y nefoedd: yr hyn oll ar y ddaiar a drenga.
18Ond a thi y cadarnhaf fyng-hyfammod, ac i’r Arch yr ei di, a’th feibion, a’th wraig, a gwragedd dy feibion gyd a thi.
19Ac o bôb byw, o bôb cnawd, y dygi ddau o bôb i’r arch iw cadw yn fyw gyd a thi, gwryw a banyw fyddant.
20O’r ehediaid wrth eu rhywogaeth, ac o’r anifailiaid wrth eu rhywogaeth, o bôb ymlusciad y ddaiar wrth ei rywogaeth, dau o bôb a ddeuant attat iw cadw yn fyw.
21A chymmer di it, o bôb bwyd yr hwn a fwytteir, a chascl attat, a bydded yn ymborth iti, ac iddynt hwythau.
22 Hebr.11.7. Felly y gwnaeth Noah, yn ol yr hyn oll a orchymynnase Duw iddo, felly y gwnaeth efe.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.