1Nid gweddus i’r ffôl anrhydedd, mwy nac i’r haf eira neu i’r cynhaiaf law.
2Fel yr aderyn a gyrwydra, a’r wennol a ehêda: felly y felldith yr hon ni haedder ni ddescyn.
3Ffrewyll i farch, ffrwyn i assyn: a gwialen a i gefn yr ynfyd.
4Na atteb ynfyd fel ei ynfydrwydd, rhag dy gyffelybu iddo.
5Atteb yr ynfŷd fel ei ynfydrwydd: rhag iddo fod yn ddoeth yn ei olwg ei hun.
6Y neb a yrro negesau gyd ag vn angall a gaiff gam megis pe torre draed gennad.
7Nid gogyhyd ysceiriau y clôff: felly dammeg o enau ffyliaid.
8Fel vn yn rhwymo carreg mewn tafl: felly y gwna’r neb a anrhydeddo ffôl.
9Fel draen yn myned i law dŷn meddw: felly y mae dihareb yng ngenau yr angall.
10Y cadarn yr hwn a lunniodd bob peth sydd yn gobrwyo y ffôl, ac yn talu i’r troseddwŷr.
11 2 Pet.2.22. Megis ci yn dychwelyd iw chwdfa: felly y mae y ffôl yr hwn a ddechreu ei ffolineb drachefn o newydd.
12A welaist di ŵr doeth yn ei olwg ei hun? gwell yw’r gobaith am ffôl nag am hwnnw.
13Y mae llew mawr ar y ffordd y mae llew yn yr heôlydd.
14Fel y drws yn troi ar ei golyn, felly’r diog yn ei wely.
15Y Pen.19.24.diog a guddia ei law yn ei fynwes, a blin ganddo ei hestyn at ei enau trachefn.
16Doethach yw’r diog yn ei olwg ei hun, na seith-wŷr yn adrodd rheswm.
17Y neb wrth fyned heibio a ymmyrro mewn cweryl ni pherthyn iddo ei hun, sydd megis vn yn cymmeryd cî erbyn ei glustiau.
18Fel dŷn gwall-gofus yr hwn a daflo bentewynion tân, saethau, ac arfau marwolaeth:
19Felly y gwna gŵr twyllodrus ai gymmydog gan ddywedyd, ond cellwair yr oeddwn i?
20Megis pan ddarfyddo’r coed y diffodda’r tân: felly pryd na byddo athrodwr y derfydd y gynnen.
21Gŵr cynhennus Ecclus.28.10.a ennynna gynnen, fel glô y marwor, a’r coed y tân.
22 Pen.18.8. Geiriau’r athrodwr ydynt megis rhai yn ymguro, a hwy a ddescynnant i gelloedd y bol.
23Fel sorod arian wedi eu bwrw dros ddryll llestr pridd: felly y mae gwefusau poeth a chalon ddrwg.
24Y digasog a ragrithia ai wefusau: ac yn ei galon yn dychymmyg twyll.
25Pan ddywedo efe yn dêg nac ymddyriet iddo: canys y mae saith ffieidd-dra yn ei galon ef
26Drwy gyfrwysder y cuddir digasedd: ond ei ddrygioni a ddatguddir yn y gynnulleidfa
27 Ecclus.10.8.|SIR 10:8. & 27.26. Y neb a gloddio bydew a syrth ynddo, a’r neb a dreiglo garreg, atto y dychwel trachefn.
28Y tafod celwyddog a gasâ’r neb a gystuddio efe, a’r genau gwenieithus a wna ddinistr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
