Ezeciel 12 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XII.Y prophwyd ar ddammeg yn dangos y caeth-gludid Sedecia ai bobl i Babilon, 18 Ac ar ddammeg arall yn bygwth newyn a phrinder mawr.

1A Gair yr Arglwydd a ddaeth attaf, gan ddywedyd:

2Trigo’r ydwyt ti fab dyn, yng-hanol tŷ anufyddgar, y rhai llygaid iddynt i weled, ac ni welant, a chlustiau iddynt i glywed, ac ni chlywant: canys tŷ anufyddgar ydynt hwy.

3A thithe fab dŷn gwna it offer caethfud, a muda liw dydd o flaen eu llygaid hwynt, îe muda o’th le dy hun i le arall, yng-ŵydd eu llygaid hwynt: ond odid gwelant mai tŷ anufyddgar hwy.

4A dŵg allan dy ddodrefn liw dydd yng-ŵydd eu llygaid fel dodrefn caethfud: dos dithe allan yn yr hŵyr yng-ŵydd eu llygaid, fel rhai yn myned allan i gaeth-glud.

5Cloddia o flaen eu llygaid hwynt i ti mewn mûr, a dŵg allan trwy hwnnw:

6Llwytha ar dy yscwydd yng-ŵydd eu llygaid hwynt, mewn tywyllni y dygi allan, dy wyneb a guddi fel na welech y ddaiar: canys yn arwydd i’th roddais i dŷ Israel.

7Ac mi a wnaethum felly fel i’m gorchymynnwyd, dygais fy offer, allan liw dydd fel offer caeth-fud: ac yn yr hŵyr y cloddiais i’m mewn mûr a’m llaw: mewn tywyllwch y dygais allan, ar fy yscwydd y llwythais a flaen eu llygaid hwynt.

8A’r boreu y daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd:

9Ha fab dŷn oni ddywedodd tŷ Israel (sef y tŷ annufyddgar) wrthit, beth yr wyt ti yn ei wneuthur?

10Dywet wrthynt, 2.Bren.25.fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: y tywysog yn Ierusalem y baich hwn, a holl dŷ Israel y rhai y maent hwy yn eu mysc.

11Dywet eich arwydd chwi ydwyfi, fel y gwnaethum i felly y gwneir i chwitheu: mewn caeth-glud yr ewch, mewn caethiwed.

12A’r tywysog yr hwn yn eu canol a lwytha ar ei yscwydd, mewn tywyllwch yr aiff allan: cloddiant trwy’r mûr fel yr elont allan trwyddo, ei wyneb a guddia efe fel na welo efe y ddaiar ai lygaid.

13Canys tanaf fy rhwyd Ezec.17.20. ezec.32.3.arno ef, fel y dalier ef yn fy rhwyd, a dygaf ef i Babilon tir y Caldeaid, ac ni wêl efe hi, etto yno y bydd efe marw.

14A gwascaraf ei holl nerth ef sef y rhai a oi amgylch, ai holl lu gyd â phob gwynt, a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.

15Felly y cânt ŵybod mai myfi ydwyf yr Arglwydd, wedi gwascaru o honof hwynt ym mysc y cenhedloedd, ai tânu hwynt ar hyd y tiroedd.

16Etto gweddillaf o honynt Ezec.11.15.ychydig ddynion oddi wrth y cleddyf, oddi wrth newyn, ac oddi wrth haint: fel y mynegant eu holl ffieidd-dra ym mysc y cenhedloedd lle y delant: a gŵybyddant mai myfi ydwyf yr Arglwydd.

17Gair yr Arglwydd hefyd a ddaeth attaf gan ddywedyd:

18Ha fâb dŷn bwyttei dy fara mewn cynnwrf, a’th ddwfr a yfi mewn dychryn, a gofal:

19A dywet wrth bobl y tîr, fel hyn a dywed Arglwydd Dduw am drigolion Ierusalem, am wlâd Israel: eu bara a fwytânt mewn gofal, ai dwfr a yfant mewn anrhaith, fel yr anrheithir ei thîr oi chyflawnder am drais y rhai oll a drigant ynddi.

20A’r dinasoedd cyfanneddol a anghyfanneddir, a’r tîr a fydd anrhaithiedic, felly y gŵybyddwch mai myfi yr Arglwydd.

21A daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd:

22Ha fab dŷn beth y ddihareb hon a genwch am dîr Israel gan ddywedyd, y dyddiau a estynnasant, a darfu am bob gweledigaeth?

23Am hynny dywet ti wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, gwnaf i’r ddihareb hon beidio, fel nad arferant hi mwy yn Israel: ond yn hytrarch dywet wrthynt, y dyddiau a sylwedd pob gweledigaeth a nesauasant.

24Canys ni bydd mwy vn weledigaeth ofer, na dewiniaeth weniaithus o fewn tŷ Israel.

25Canys myfi’r Arglwydd a lefaraf y peth a lefarwyf, ac ef a wneir, nid oedir efe mwy: o herwydd yn eich dyddiau chwi ô dŷ annufuddgar y llefaraf air, ac efe a wneir, medd yr Arglwydd Dduw.

26A gair yr Arglwydd a ddaeth attaf gan ddywedyd:

27Ha fab dŷn wele dŷ Israel yn, dywedyd, y weledigaeth yr hon a welodd efe wedi dyddiau lawer: a phrophwydo y mae efe am amseroedd pell.

28Am hynny dywet wrthynt, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, nid oedir dim o’m geiriau mwy, canys y gair yr hwn a ddywedais a gwpleir, medd yr Arglwydd Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help