1A dymma henwau y llwythau: Dan vn ar y cwrr nessaf i’r gogledd ar fin ffordd Hethlon, ffordd yr eir i Hamath, Hazar, Enan, therfyn Damascus tua’r gogledd ar fin Hamath oeddynt eiddo ef du yr dwyrain y gorllewyn.
2Ac ar derfyn Dan, o du yr dwyrain hyd du’r gorllewyn Aser vn.
3Ac o derfyn Aser, o du’r dwyrain hyd du yr gorllewyn Nephthali vn.
4Ac ar derfyn Nephthali, o du’r dwyrain hyd du’r gorllewyn Manasses vn.
5Ac ar derfyn Manasses, o du’r dwyrain, hyd du’r gorllewyn Ephraim vn.
6Ac ar derfyn Ephraim, o du’r dwyrain hyd du’r gorllewyn Ruben vn.
7Ac ar derfyn Ruben, o du’r dwyrain hyd du’r gorllewyn Iuda vn.
8Ac ar derfyn Iuda, o du’r dwyrain hyd du’r gorllewyn yr offrwm yr hwn a offrymmoch yn bum mil ar hugain o hŷd, ac o lêd fel vn o’r rhannau o du’r dwyrain hyd du’r gorllewyn: a’r cyssegr fydd yn ei ganol.
9Yr offrwm yr hwn a offrymmoch i’r Arglwydd bum mil ar hugain o hŷd, a deng-mil o lêd,
10Ac eiddo y rhai hyn fydd yr offrwm cyssegredic eiddo’r offeiriaid pum mil ar hugain tua’r gogledd a deng-mil tua’r gorllewyn o lêd: felly deng-mil tua’r dwyrain o lêd, a phum-mil ar hugain tua’r dehau o hŷd: a chyssegr yr Arglwydd fydd yn ei ganol,
11I’r offeiriaid cyssegredic o feibion
Terfyn llyfr y Prophwyd Ezeciel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
