1Onid wyfi yn Apostl? onid wyfi yn rhydd? oni welais i Iesu Grist ein Arglwydd? onid fyng-waith i ydych chwi yn yr Arglwydd?
2Pe byddwn i heb fod yn Apostol i eraill, etto yr wyfi i chwi: canys fel fy apostoliaeth i ydych yn yr Arglwydd.
3Fy atteb i i’r rhai a’m holant, yw hyn:
4Onid oes i ni awdurdod i fwyta ac i yfed.
5Onid oes i ni awdurdod i arwain o amgylch wraig chwaer, fel yr Apostolion eraill, a brodyr yr Arglwydd, a Chephas?
6Ai myfi yn vnic a Barnabas sy heb fod gennym rydd-did na weithiom?
7Pwy erioed a ryfelodd ar ei draul ei hun? pwy sydd yn plannu gwinllan, ac heb fwyta o’i ffrwyth hi? neu pwy sydd yn porthi praidd, ac heb fwyta o saeth y praidd?
8A’i yn ddynol yr wyfi yn dywedyd hyn? onid yw y ddeddf hefyd yn dywedyd hyn?
9Canys scrifennedic yw yn neddf Moses: Oni ŵyddoch chwi am y rhai sy yn rhedeg mewn gyrfa, fod pawb yn rhedeg, ond bod vn yn myned â’r gamp? felly rhedwch fel yr ennilloch.
25Hefyd y mae pob vn a ymdrecho am gamp, yn ymgadw rhag pob dim, ac hwynt oll er mwyn cael coron ddarfodedic, a ninnau vn annarfodedic.
26Am hynny yr wyfi felly yn rhedeg, nid ar amcan, felly yr wyf yn ymdrechu, nid fel vn yn curo yr awyr.
27Ond yr wyfi yn cospi fyng-horph, ac yn ei ddarostwng i wasanaeth, rhag mewn vn modd wedi i mi bregethu i eraill, fy mod fy hunan yn anghymmeradwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
