Exodus 16 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVI.Israel yn dyfod i anialwch Sin. 3 Ac yn tuchan am fwyd. 13 Ac yn cael sofl-ieir a Manna. 16 Y modd a’r mesur i gael y Manna. 32 Cadw peth o’r Manna er coffadwriaeth.

1Yna y symmudasant o Elim, a holl gynnulleidfa meibion Israel a ddaethant i anialwch Sin yr hwn rhwng Elim a Sinai: ar y pymthecfed dydd o’r ail mîs wedi iddynt fyned allan o wlad yr Aipht.

2A holl gynnulleidfa meibion Israel, a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron yn yr anialwch.

3Canys meibion Israel a ddywedasant wrthynt, ô na buasem feirw tann law’r Arglwydd yng-wlad yr Aipht? pan oeddem yn eistedd wrth y crochanau cig ac yn bwyta bara ddigon: ond chwi a’n dygasoch ni allan i’r anialwch hwn i ladd yr holl dyrfa hon a newyn.

4Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, wele mi a lawiaf arnoch fara o’r nefoedd: a’r bobl a ânt allan, ac a gasclant ddogn dydd yn ei ddydd, fel y gallwyf eu profi, a rodiant yn fyng-hyfraith, ai nas

5Ond ar y chweched dydd y darparant yr hynn a ddygant i mewn: a fydd dau cymmeint i’r hyn a gasclant beunydd.

6Yna y dywedodd Moses ac Aaron wrth holl feibion Israel: yn yr hwyr y cewch wybod mai’r Arglwydd a’ch dug chwi allan o wlad yr Aipht.

7Y borau hefyd y cewch weled gogoniant yr Arglwydd, am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr Arglwydd: o herwydd beth ni pan dduchanasoch i’n herbyn?

8Moses hefyd a ddywedodd, yn yr hwyr y rhydd yr Arglwydd i chwi yn yr hwyr gîg iw fwyta, a’r borau fara ddigon, am glywed o’r Arglwydd eich tuchan chwi’r hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: o herwydd beth ni? nid yn ein herbyn ni eich tuchan, onid yn erbyn yr Arglwydd.

9A Moses a ddywedodd wrth Aaron, dywet wrth holl gynnulleidfa meibion Israel deuwch yn nes ger bron yr Arglwydd: o herwydd efe a glywodd eich tuchan chwi.

10Ac fel yr oedd Aaron yn llefaru wrth holl gynnulleidfa meibion Israel, yna’r edrychasant tua’r anialwch: ac wele gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd mewn niwl.

11A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd,

12 Exod.12.21|EXO 12:21. Preg.45.4(sic.) Clywais duchan meibion Israel, llefara wrthynt gan ddywedyd, yn y cyfnos y cewch fwyta cîg, a’r borau i’ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai myfi yr Arglwydd eich Duw chwi.

13Felly yn yr hwyr y Num.11.7|NUM 11:7. Psal.78.24|PSA 78:24. Doeth 16.20 sofl-ieir a ddaethant ac a orchguddiasant y wersyllfa: a’r boreu yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwerssyll.

14A phan gododd y gaenen wlith: yna wele ar hyd wyneb yr anialwch dippynnau crynnion cyn faned a’r llwyd-rew ar y ddaiar.

15Pan welodd meibion Israel yna y dywedasant wrth ei gilydd Manna ef, canys ni wyddent beth efe: a dywedodd Moses wrthynt, Ioan 6.31|JHN 6:31. 1.Cor.10.3 hwn yw y bara’r hwn a roddodd yr Arglwydd i chwi iw fwyta.

16Hynn yw’r peth a orchymynnodd yr Arglwydd, cesclwch o honaw bob vn yn ol ei fwyta: Gomer i bob vn yn ol rhifedi eich eneidiau, cymmerwch bob vn i’r rhai fyddant yn y gwersyll.

17A meibion Israel a wnaethant felly: ac a gasclasant, rhai lawer, a rhai ychydig.

18Pan * fesurasant wrth y Gomer, yna nid oedd gweddill i’r hwn a gasclase lawer, ac nid oedd eisieu ar yr hwn a gasclase ychydig: casclasant bob vn yn ol ei fwyta.

19Yna y dywedodd Moses wrthynt: na weddilled neb ddim o honaw hyd y borau.

20Er hynny ni wrandawsant ar Moses onid gado a wnaeth rhai o honaw hyd y borau, ac efe a fagodd bryfed ac a ddrewodd: am hynny Moses a ddigiodd wrthynt.

21A hwynt ai casclasant ef bob borau, pob vn yn ol ei fwytta: pan wresoge yr haul efe a dodde.

22Ac ar y chweched dydd y casclent ddau cymmeint o’r bara, dau Omer i vn: a holl benaethiaid y gynnulleidfa a ddaethant, ac a fynegasant i Moses.

23Ac efe a ddywedodd wrthynt, hynn yw ’r peth a lefarodd yr Arglwydd, y foru gorphwysfa Sabboth sanctaidd i’r Arglwydd: pobwch yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch, a gosodwch mewn cadwraeth hyd y borau yr holl weddill.

24A hwynt ai cadwasant hyd y bore, fel y gorchymynase Moses: ac ni ddrewodd, ac nid oedd pryf ynddo.

25A dywedodd Moses, bwyttewch hwn heddyw; o blegit Sabboth heddyw i’r Arglwydd: ni chewch hwn yn y maes heddyw.

26Chwe diwrnod y cesclwch chwi ef: a’r seithfed dydd Sabboth, ni bydd efe ar hwnnw.

27Etto o’r bobl a aethant allan ar y seithfed dydd i gasclu, ond ni chawsant ddim.

28A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, pa hyd y gwrthodwch gadw fy ngorchymynnion a’m cyfreithiau?

29Gwelwch mai yr Arglwydd a roddodd i chwi Sabboth, am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd: arhoswch bawb gartref, nac aed vn oi le y seithfed dydd.

30Felly y bobl a orphwysasant y seithfed dydd.

31A thŷ Israel a alwasant ei henw ef Manna: ac yr oedd efe fel hâd Coriander, yn wynn, ai flâs fel afrllad o fêl.

32A Moses a ddywedodd dymma y peth a orchymynnodd yr Arglwydd, llanw Omer o honaw iw gadw drwy eich oesoedd: fel y gwelant y bara y porthais chwi ag ef yn yr anialwch, pan y’ch dygais allan o wlâd yr Aipht.

33A Moses a ddywedodd wrth Aaron, cymmer Heb.9.4.vn crochan, a dod ynddo loned Gomer Manna: a gosot ef ger bron yr Arglwydd yng-hadw drwy eich oesoedd.

34Megis y gorchymynnodd yr Arglwydd i Moses: felly y gosododd Aaron ef i gadw ger bron y destiolaeth.

35A meibion Israel a fwytawsant y Manna Iosu.5.12.|JOS 5:12. Neh. 9.15ddeugain mhlynedd nes eu dyfod i dîr cyfanneddol: y Manna a fwytawsant nes eu dyfod i gwrr gwlad Canaan.

36A’r Gomer ydoedd ddecfed rann Epha.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help