1Y gair yr hwn a ddaeth at Ieremi oddi wrth yr Arglwydd gan ddywedyd.
2Cyfot, a dos i wared i dŷ y crochenydd, ac yno y paraf i ti glywed fyng-eiriau.
3Yna mi a euthym i wared i dŷ y crochenydd, ac wele ef yn gwneuthur ei waith ar droellau.
4A’r llestr a ddrylliodd yn llaw y crochenydd yr hwn yr oedd efe yn ei wneuthur Isa.45.9.|ISA 45:9. Doeth.15.7.o glai: yna y trôdd efe, ac y gwnaeth lestr arall fel y gwelodd y crochenydd yn dda wneuthur.
5Yna y daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd,
6Oni allafi fel y crochenydd hwn wneuthur i chwi tŷ Israel medd yr Arglwydd? wele megis ac y pridd yn llaw y crochenydd, felly chwithau yn fy llaw i tŷ Israel.
7[Os] dywedaf yn ddisymmwth am ddiwreiddio, a thynnu i lawr, a difetha cenhedlaeth neu frenhiniaeth,
8A’r genhedlaeth honno yn troi oddi wrth ei drwg (yr hwn a ddywedais yn ei erbyn: ) yna yr edifarhaf am y drwg yr hwn a amcenais ei wneuthur iddi.
9[Os] yn ddisymmwth y dywedaf am adailadu, ac am blannu cenhedlaeth neu frenhiniaeth,
10Os hi yn gwneuthur drygioni yn fyng-olwg heb wrando ar fy llais, minnef a edifarhaf am y daioni yr hwn a amcenais ei wneuthur er llês iddi.
11Dywet bellach, wrth bob vn o Iuda, ac wrth bresswyl-wŷr Ierusalem, gan ddywedyd, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd: wele fi yn llunio drwg i’ch erbyn, ac yn dychymygu dychymyg i’ch erbyn: dychwelwch yr awr hon, bob vn oi lwybrau drwg, a gwellhewch eich ffyrdd, a’ch gweithredoedd.
12Hwythau a ddywedasant, nid oes obaith o herwydd ar ôl ein dychymygion ein hunain yr awn, a gwnawn bob vn amcan ei ddrwg calon ei hunan.
13Am hynny fel hyn y dywet yr Arglwydd, gofynnwch atolwg ym mysc y cenhedloedd pwy a glywodd fel y rhai hynn? gwnaeth y forwyn Israel frynti mawr.
14A wrthodir eira Libanus yr hwn o graig y maes? neu a wrthodir y difroedd oerion y rhai fyddo yn rhedeg o leoedd oerion erail?
15O herwydd i’m pobl fy anghofio i, arogl-darthu i wagedd, ac wneuthur iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd, o lwybrau tragywyddoldeb Ier.6.16.i gerdded llwybrau ffordd ddisathr,
16I osod eu tir yn anghyfannedd, ac yn ffiaidd byth: pawb a elo heibio iddo a ryfeddant, ac a escydwant eu pennau,
17A gwynt y dwyrain y chwalaf hwynt o flaen y gelyn: fyng-wegil, ac nid wyneb a ddangosaf iddynt yn amser eu methiant.
18Yna y dywedasant, deuwch a dychymygwn ddychymygion yn erbyn Ieremi, canys ni fetha y gyfraith gan yr offeiriad, na chyngor gan y doeth, na’r gair gan y prophwyd: deuwch, tarawn ef a’r tafod, ac nac ystyriwn ar ei holl eiriau.
19Ystyria di wrthif ô Arglwydd, a chlyw lais y rhai sydd yn ymryson â mi.
20A dêlir drwg dros dda? canys cloddiasant ffôs i’m henaid: cofia i mi sefyll ger dy fron di i ddywedyd daioni am danynt, i dychwelyd dy ddîg oddi wrthynt.
21Am hynny gad ti iw meibion feirw o newyn, a gwna iddynt syrthio ar fîn y cleddyf: a bydded eu gwragedd heb eu plant, ac yn weddwon: lladder hefyd eu gwŷr yn feirw, a tharawer eu gwŷr ieuaingc a’r cleddyf yn y rhyfel.
22Clywer eu gwaedd oi tai pan ddygech y fyddin arnynt yn ddisymmwth: canys cloddiasant ffôs i’m dal: a chuddiasant faglau i’m traed.
23A thi ô Arglwydd a wyddost eu holl gyngor hwynt am fy llâdd i: na faddeu di eu hanwiredd, ac na ddelea eu pechodau o’th ŵydd eithr byddant dramgwyddedic ger dy fron: gwna di iddynt yn amser dy ddigofaint.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.