Ieremi 23 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIII.Bygwth yn erbyn y bugeiliaid y rhai ydynt yn ysceuluso y praidd: 5 Dyfodiad y bugail Crist. 9 Beiau y gau brophwydi.

1Gwae Ezec.34.2.y bugeiliaid y rhai ydynt yn difetha, ac yn gwascaru defaid fy mhorfa, medd yr Arglwydd.

2Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, am y bugeiliaid y rhai ydynt yn bugeilio fy mhobl: chwi a wascarasoch fy nefaid, ac ai hymlidiasoch, ac nid ymwelsoch â hwynt: wele fi yn ymweled â chwi, am ddrygioni eich gweithredoedd medd yr Arglwydd.

3Ac mi a gasclaf weddill fy nefaid o’r holl diroedd lle y gyrrais hwynt, ac mi ai dychwelaf hwynt drachefn iw corlannau: yna yr amlhânt, ac y chwanegant.

4Gosodaf hefyd arnynt fugeiliaid y rhai ai bugeilia hwynt, fel nad ofnant, ac na ddychrynnant, ac na byddant yn eisieu, medd yr Arglwydd.

5Wele y dyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd fel y cyfodwyf i Ddafydd Esa.11.1. Esa.45.8.flagurun cyfiawn yr hwn a deyrnasa yn Frenin, ac a lwydda, ac a wna farn, a chyfiawnder yn y tîr.

6Yn ei ddyddiau ef yr achubir Iuda, ac Deut.33.28. Ier.33.16.Israel a bresswylia yn ddiogel: a hyn fydd ei enw yr hwn y gelwir ef, Yr Arglwydd ein cyfiawnder.

7Am hynny wele y dyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd pryd na ddywedant mwyach, byw yw’r Arglwydd yr hwn a ddug feibion Israel i fynu o wlad yr Aipht:

8Eithr byw yw’r Arglwydd yr hwn a ddug i fynu, ac a dywysodd hâd tŷ Israel o dir y gogledd, ac o bob gwlad lle y bwriaswn i hwynt: a hwy a gânt aros yn eu gwlad eu hun.

9O herwydd y gau-brophwydi y drylliodd fyng-halon ynof, a’m holl escyrn a grynasant: yr ydwyf fel vn meddw, ac fel vn wedi i win ei orchfygu: rhac ofn yr Arglwydd, ac rhac ofn ei eiriau sanctaidd ef.

10Canys llawn yw yr ddaiar o odinebwŷr, o herwydd llwon y gofidiodd y ddaiar, ac y gwywodd ttrigleoedd yr anialwch, ie eu helynt sydd ddrwg, ai cadernid nid iniawn.

11Canys y prophwyd a’r offeiriad hefyd a ragrithiasant, yn fy nhŷ fy hun hefyd y cefais eu drygioni hwynt, medd yr Arglwydd.

12Am hynny y bydd eu ffordd yn llithric iddynt, mewn tywyllwch y bwrir hwynt ymmaith, a syrthiant ynddi: canys myfi a ddygaf arnynt ddrygfyd blwyddyn eu gofwy medd yr Arglwydd,

13Ar brophwydi Samaria y gwelais hefyd ddiflaster: prophwydasant yn enw Baal, a hudasant fy mhobl Israel.

14Ac ar brophwydi Ierusalem y gwelais frynti mawr, sef torri priodas, a rhodio mewn celwydd, cynnorthwyasant hefyd ddwylo y drygionus fel na ddychwele neb oddi wrth ei ddrygioni: pob vn ohonynt sydd i mi fel Sodoma ai thrigolion, fel Gomorra.

15Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd am y prophwydi hyn: wele mi ai bwydaf hwynt a’r wermod, Iere.8.14.ac ai diodaf hwynt â dwfr bustl: canys oddi wrth brophwydi Ierusalem yr aeth lledrith allan i’r holl dîr.

16Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, na wrandewch ar eiriau y prophwydi sy yn prophwydo i chwi, dyscu y maent i chwi: gweledigaethau eu calon eu hunain a lefarant, nid o enau yr Arglwydd.

17Gan ddywedyd y dywedant wrth fy nirmygwŷr, yr Arglwydd a ddywedodd y bydde i chwi heddwch, ac bob vn sydd yn rhodio wrth amcan ei galon ei hun y dywedasant, ni ddaw arnoch niwed.

18Canys pwy a safodd yng-hyfrinach yr Arglwydd? ac a welodd, ac a glywodd ei air ef? pwy hefyd a styriodd, ac a wrandawodd ei air ef.

19Wele rhyferthwy yr Arglwydd llidiawgrwydd, sef corwynt angerddol a syrth ar benn y drygionus.

20Digofaint yr Arglwydd ni ddychwel nes iddo wneuthur, a siccrhau meddwl ei galon: Ier.14.13. Ier.27.15. Ier.29.8.yn y dyddiau diwethaf y deallhwch hynny yn eglur.

21Ni hebryngais i y prophwydi etto hwynt a redasant: ni leferais wrthynt, er hynny hwynt a brophwydasant.

22Pe safasent yn fyng-hyfrinach, yna hwy a ddangosasent fyng-eiriau i’m pobl: yna y gwnaethent hefyd iddynt ddychwelyd oi ffordd ddrwg, ac oddi wrth eu ddychymygion drygionus.

23Ai Duw o agos ydwyfi medd yr Arglwydd, ac nid Duw o bell?

24A lecha vn yn ei loches fel na’s gwelwyfi ef medd yr Arglwydd? onid ydwyfi yn llenwi y nefoedd a’r ddaiar medd yr Arglwydd?

25Mi a glywais beth a ddywedodd y prophwydi y rhai ydynt yn prophwydo celwydd yn fy enw, gan ddywedyd: breuddwydiais, breuddwydiais.

26Pa hyd y bydd yng-halon y prophwydi prophwydo celwydd, a prophwydo dichell eu calon eu hunain?

27Y rhai ydynt yn meddylio peri i’m pobl anghofio fy enw trwy eu breuddwydion, y rhai a fynegant bob vn iw gymydog: megis yr anghofiodd eu tadau fy enw drwy Baal.

28Y prophwyd yr hwn y del breuddwyd iddo, dangosed ei freuddwyd, a’r hwn y dêl fyng-air atto llefared fyng-air gwirionedd: Ezec.3.17.|EZK 3:17. 1.Cor.2.17.(sic.)|1CO 2:16. 1.Pet.4.11.beth yr col gyd a’r gwenith? medd yr Arglwydd.

29Ond yw fyng-air i megis tân medd yr Arglwydd, ac fel gordd yn dryllio y graig?

30Am hynny wele mi a yn erbyn y prophwydi (medd yr Arglwydd) y rhai ydynt yn lledrata fyng-eiriau bob vn oddi ar ei gymydog.

31Wele fi yn erbyn y prophwydi (medd yr Arglwydd) y rhai a weniaithant, ac a ddywedant ai dywedodd.

32Wele fi yn erbyn y rhai a brophwydant freuddwydion celwyddoc medd yr Arglwydd, ac ai mynegant, ac a hudant fy mhobl trwy eu celwydd, ai gwagedd, a mi heb eu gyrru hwynt, ac heb orchymyn iddynt: am hynny ni wnant ddim lles i’r bobl hyn medd yr Arglwydd.

33A phan ofynno y bobl hynn, neu y prophwyd neu yr offeiriad i ti gan ddywedyd: beth baich yr Arglwydd? ti a ddywedi iddynt beth yr baich, mai eich gwrthod a wnaf medd yr Arglwydd.

34A’r prophwyd a’r offeiriad, a’r bobl y rhai a ddywedo, baich yr Arglwydd: myfi a ymwelaf a’r gŵr hwnnw, ac ai dŷ.

35Fel hyn y dywedwch bob vn wrth ei gilydd, a phob vn wrth ei frawd, beth a atebodd yr Arglwydd, neu beth a lefarodd yr Arglwydd?

36Ond am faich yr Arglwydd na wnewch choffewch mwyach, canys baich i bawb fydd ei air ei hun: o herwydd chwychwi a ŵyrasoch eiriau y Duw byw, Arglwydd y lluoedd ein Duw ni.

37Fel hyn y dywedi wrth y prophwyd: pa ateb a roddodd yr Arglwydd i ti? a pha beth a lefarodd yr Arglwydd?

38Ac os dywedwch chwi, baich yr Arglwydd, yna fel hynn y dywed yr Arglwydd: am i chwi ddywedyd y gair hwn, baich yr Arglwydd a mi wedi anfon attoch gan ddywedyd, nac yng-enwch am faich yr Arglwydd,

39Am hynny wele myfi a’ch codaf chwi yn faich, ac a’ch taflaf chwi, a’r ddinas yr hon a roddais i chwi, ac i’ch tadau o’m golwg.

40 Ierem.20.11. Ac mi a roddaf arnoch warthrudd tragywyddol, a gwradwydd tragywydd, yr hwn nid anghofir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help