2.Samuel 8 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VIII.Y cenhedloedd a wnaeth Dafydd iddynt dalu teyrnged iddo ef.

1Ac wedi 1.Cron.18.1. Psal.60.2.hyn y tarawodd Dafydd y Philistiaid, ac ai darostyngodd hwynt: a Dafydd a ddug ymmaith ffrwyn y gaethiwed o law y Philistiaid.

2Hefyd efe a darawodd Moab, ac ai mesurodd hwynt a rheffyn gan eu cwympo hwynt i lawr, ac efe ai mesurodd a dau reffyn iw lladd ac a lloned y rheffyn iw bywhau: felly y Moabiaid fuant i Ddafydd yn weision yn dwyn trêth.

3Tarawodd Dafydd hefyd Hadarezar fab Rehob brenin Zoba, pan oedd efe yn myned i osod ei gryfder wrth afon Euphrates.

4A Dafydd a ennillodd oddi arno ef fîl a saith gant o farchogion, ac vgain mil o wŷr traed: a thorrodd Dafydd linynnau garr pob cerbyd, ac efe a adawodd o honynt gant cerbyd

5Yna y daeth y Syriaid o Ddamascus i gynnorthwyo Hadarezar brenin Zoba: a Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr.

6A Dafydd a osododd swyddogion ar y Syriaid o Ddamascus, a’r Syriaid a fuant weision i Ddafydd yn dwyn trêth: a’r Arglwydd a gadwodd Ddafydd ym mha le bynnac yr aeth efe.

7Dafydd hefyd a gymmerth dariannau aur y rhai oeddynt gan weision Hadarezar: ac ai dûg hwynt i Ierusalem.

8O Beta hefyd, ac o Berothai dinasoedd Hadarezar, y dûg y brenin Dafydd lawer iawn o brês.

9Pan glybu 1.Cron.18.9.Tohi brenin Hamath, daro o Ddafydd holl nerth Hadarezar.

10Yna Tohi a anfonodd 1.Cron.18.10.Ioram ei fab at y brenin Dafydd i geisio ganddo ef heddwch, ac i ddiolch iddo ef, (am iddo ymladd yn er hyn Hadarezar, ai fauddu ef, canys gŵr rhyfelgar oedd Hadarezar Tohi) a llestri arian, a llestri aur, a llestri prês oeddynt ganddo ef.

11Y rhai hynny hefyd a gyssegrodd y brenin Dafydd i’r Arglwydd: gyd a’r arian, a’r aur, y rhai a gyssegrase efe o’r holl genhedloedd y rhai a orescynnase efe.

12[Sef] oddi ar y Syriaid, ac oddi ar y Moabiaid, ar oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar yr Amaleciaid, ac o anrhaith Hadarezar mab Rehob brenin Zoba.

13Felly Dafydd a ennillodd enw pan ddychwelodd efe o ladd y Syriaid yn nyffryn yr halen: tair mil ar bymthec.

14Efe a osododd bennaethiaid ar Edom, 1.Cron.18.13.ar holl Edom y gosododd efe bennaethiaid, a bu holl Edom yn weision i Ddafydd: a’r Arglwydd a gadwodd Ddafydd ym mha le bynnac y rhodiodd efe.

15A theyrnasodd Dafydd ar holl Israel: yr oedd Dafydd hefyd yn gwneuthur barn, a chyfiawnder iw holl bobl.

16Ac Ioab mab Serfia benn ar y llu: ac Iebosaphat mab Ahilud yn gofiadur.

17A Zadoc mab Ahitob, ar 1.Cron.18.16.Ahimelec mab Abiathar offeiriaid: Seraiah yn scrifennydd.

18Benaiabu hefyd mab Iehoioda ar y Crethiaid, a’r Pelethiaid: a 1.Cron.18.17.meibion Dafydd oeddynt dywysogion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help